
Diwrnod Diabetes y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Diabetes y Byd i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes, rhannu awgrymiadau ac adnoddau a chefnogi gweithwyr sydd â diabetes.
Gwerth cefnogi Diwrnod Diabetes y Byd yn y gwaith
Mae Diwrnod Diabetes y Byd yn ddigwyddiad blynyddol gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o diabetes Math 1 a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda diabetes Math 1.
Mae nifer o fanteision i’ch gweithle chi o gefnogi Diwrnod Diabetes y Byd, sy’n cynnwys:
- Mwy o ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1
- Mwy o ymgysylltiad ymhlith y gweithwyr
- Gwell morâl
Cymryd rhan yn Niwrnod Diabetes y Byd yn y gwaith
Mae yna sawl ffordd y gall eich gweithle gymryd rhan yn Diwrnod Diabetes y Byd.
Dyma syniad neu ddau:
Codi ymwybyddiaeth
Defnyddiwch eich sianeli cyfathrebu mewnol i rannu gwybodaeth am ddiabetes i ledaenu ymwybyddiaeth.
Ewch i wefan Diabetes UK (Saesneg yn unig) i ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau.
Trefnu gweithdy
Gwahoddwch weithiwr gofal iechyd proffesiynol i siarad â gweithwyr am ddiabetes. Gall gwneud hyn fod yn ffordd dda o ddysgu sut mae rheoli diabetes.
Annog profion iechyd
Rhannwch wybodaeth am brofion iechyd diabetes ac anogwch y gweithwyr sydd â diabetes i gael eu profion iechyd diabetes.
Gall cael sgwrs agored am brofion iechyd diabetes hefyd leihau stigma a chynyddu ymwybyddiaeth.
Diabetes yn y gweithle
Gallwch gymryd camau i gefnogi gweithwyr sy’n byw gyda diabetes trwy gydol y flwyddyn.
Dyma rai pethau y gallech eu hystyried yn eich gweithle:
- Gwnewch addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr sydd â diabetes
- Hyrwyddwch arferion iach yn y gweithle
- Anogwch sgrinio cynnar a chynnig cymorth
- Codi ymwybyddiaeth ac annog cyfathrebu agored
Mwy o wybodaeth am gymorth i weithwyr gyda diabetes.
Mwy o wybodaeth
I wybod mwy am sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Diwrnod Diabetes y Byd, ewch i wefan Diabetes UK (Saesneg yn unig).
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer derbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch