
Diwrnod Hylendid Dwylo’r Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Gallai fod yn fenig. Mae bob amser angen hylendid dwylo. Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Hylendid Dwylo'r Byd i hyrwyddo hylendid dwylo da ymhlith gweithwyr.
Manteision hylendid dwylo da yn y gweithle
Mae annog hylendid dwylo priodol yn y gwaith yn gallu:
- Lleihau lledaeniad clefydau, gan arwain at lai o ddiwrnodau salwch
- Gwella glanweithdra a hylendid yn y gweithle
- Gwella llesiant gweithwyr a’u hyder mewn diogelwch yn y gweithle
- Cefnogi mesurau rheoli heintiau, yn enwedig mewn amgylcheddau risg uchel
- Hyrwyddo diwylliant o iechyd a chyfrifoldeb ymhlith staff
Ymgysylltu â staff ar Ddiwrnod Hylendid Dwylo’r Byd
Fel cyflogwr, gallwch gymryd camau syml ac effeithiol i hyrwyddo Diwrnod Hylendid Dwylo’r Byd:
Lansio ymgyrch ymwybyddiaeth o bwysigrwydd golchi dwylo
Arddangos posteri a nodiadau atgoffa mewn ystafelloedd ymolchi ac ardaloedd cymunedol. Bydd gwneud hyn yn annog gweithwyr i olchi eu dwylo’n rheolaidd.
Cynnal arddangosiadau rhyngweithiol
Gwahodd arbenigwr i ddangos i’r gweithwyr y ffordd orau o olchi eu dwylo. Gallan nhw hefyd esbonio pam mae hylendid da yn bwysig.
Annog gweithwyr i gymryd rhan
Defnyddio cwisiau a heriau yn y gweithle i sicrhau bod eich gweithwyr yn parhau i fod yn ymgysylltiedig.
Defnyddio nodiadau atgoffa digidol
Rhannu awgrymiadau hylendid dwylo trwy e-byst, cylchlythyrau a llwyfannau negeseuon mewnol.
Hylendid dwylo y tu hwnt i Ddiwrnod Hylendid Dwylo’r Byd
Dylai cyflogwyr annog arferion hylendid da drwy gydol y flwyddyn. Dyma rai ffyrdd o greu amgylchedd gwaith glanach ac iachach:
Cadw digon o gyflenwadau hylendid dwylo
Sicrhau bod gan weithwyr fynediad i sebon, hylif diheintio dwylo ac hancesi papur mewn mannau fel ceginau, ystafelloedd ymolchi a mannau cyfarfod.
Darparu addysg rheoli heintiau
Rhannu canllawiau clir, ymarferol am dechnegau golchi dwylo ac atal germau rhag lledaenu.
Hyrwyddo glendid yn y gweithle
Annog eich gweithwyr i gadw eu desgiau a mannau a rennir yn lân. Cefnogwch hyn drwy ddarparu clytiau diheintio a gosod disgwyliadau hylendid ar gyfer ardaloedd cymunedol.
Sicrhau mynediad i gyfleusterau golchi dwylo
Darparu sebon, hylif diheintio dwylo, a gorsafoedd sychu ar gyfer gweithwyr. Os oes gennych gwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth, gwnewch yn siŵr eu bod hefyd yn gallu cynnal hylendid da.
Arddangoswch nodiadau atgoffa mewn ystafelloedd ymolchi ac ardaloedd cymunedol i annog gweithwyr i olchi eu dwylo’n iawn.
Cymryd Rhan
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Niwrnod Hylendid Dwylo’r Byd, ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
Am fwy o wybodaeth am amrywiaeth o bynciau iechyd a llesiant, ewch i wefan Iechyd A-Z.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.
- Ymgyrch