
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl yn y gwaith i gefnogi gweithwyr a chwalu stigma.
Gwerth cefnogi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y gwaith
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ledled y byd.
Mae creu diwylliant sy’n annog trafodaethau agored yn arwain at weithlu iachach, mwy ymrwymedig. Gall anwybyddu iechyd meddwl yn y gweithle arwain at fwy o absenoldebau a pherfformiad is.
Gall gweithle sy’n cefnogi lles meddyliol:
- Greu awyrgylch agored o onestrwydd a dealltwriaeth
- Cryfhau perthnasoedd yn y gweithle a gwaith tîm
- Sicrhau bod y gweithwyr yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi
- Lleihau absenoldebau a gorlethu sy’n gysylltiedig â straen
- Gwella cynhyrchiant a morâl yn y gweithle.
Dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y gwaith
Fel cyflogwr, gallwch greu diwylliant o ddealltwriaeth lle mae’r gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus i siarad am iechyd meddwl.
Dyma rai camau syml y gallwch eu cymryd i gefnogi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn y gwaith:
Annog sgyrsiau
Defnyddiwch bosteri, e-byst, diweddariadau ar fewnrwyd, a chyfarfodydd tîm i godi ymwybyddiaeth.
Creu mannau diogel
Creu llefydd i weithwyr siarad am bethau yn breifat. Gallai’r rhain gynnwys:
- Grwpiau cymorth cyfoedion anffurfiol
- Sgyrsiau gwirio lles
- Ardaloedd tawel
Dylech ganiatáu i’r gweithwyr gysylltu’n breifat drwy flychau awgrymiadau neu fforymau ar-lein.
Darparu adnoddau
Rhannwch fanylion adnoddau y gall eich gweithwyr eu defnyddio i gael cefnogaeth. Gall hyn gynnwys:
- Llinellau cymorth
- Gwasanaethau cwnsela
- Apiau lles
- Rhaglenni Cymorth i Weithwyr (EAP)
- Cynlluniau lles mewnol.
Arwain drwy weithredu
Mae angen annog timau arwain a rheolwyr i siarad yn agored am iechyd meddwl a hyrwyddo amgylchedd cefnogol.
Iechyd meddwl yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn
Fel cyflogwr, gallwch chwarae rhan hanfodol wrth leihau stigma a hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:
Gwirio iechyd a llesiant meddyliol
- Datblygu cynllun iechyd meddwl yn y gweithle
- Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chefnogol yn y gweithle
- Rhannu adnoddau iechyd meddwl a llesiant gyda gweithwyr
Ewch i’n tudalen iechyd meddwl a llesiant am fwy o wybodaeth.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Niwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig).
Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Mind (Saesneg yn unig).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch