
Diwrnod Iechyd y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Mae Diwrnod Iechyd y Byd yn tynnu sylw at faterion iechyd ac yn hyrwyddo gweithredu i sicrhau llesiant gwell. Gall cyflogwyr ddefnyddio'r diwrnod i godi ymwybyddiaeth a chefnogi mentrau llesiant yn y gweithle.
Pam mae Diwrnod Iechyd y Byd yn bwysig i gyflogwyr
Gall cefnogi Diwrnod Iechyd y Byd gael effaith gadarnhaol ar eich gweithle a llesiant eich gweithwyr.
Trwy gefnogi’r diwrnod, gallwch:
- Wella llesiant yn y gweithle drwy hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw
- Codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd cyffredin a allai effeithio ar eich gweithwyr
- Meithrin diwylliant cadarnhaol yn y gweithle sy’n gwerthfawrogi iechyd ei weithwyr
Sut i ymgysylltu â staff ar Ddiwrnod Iechyd y Byd
Mae yna lawer o ffyrdd i gael eich gweithwyr i gymryd rhan ac annog gweithle iachach.
Dyma rai pethau y gallech chi eu gwneud:
Cael pobl i symud
Trefnu her camau hwyliog. Beth am gynnwys seibiannau egnïol byr yn ystod y dydd i helpu gweithwyr i gadw’n egnïol.
Cynnal sesiwn iechyd a llesiant
Gwahodd arbenigwr i mewn i roi sgwrs i’r gweithwyr. Gallai gweithwyr ddefnyddio’r cyfle hwn i ofyn cwestiynau am gadw’n iach.
Rhannu awgrymiadau syml i gadw’n iach
Defnyddio eich sianeli cyfathrebu â staff i rannu gwybodaeth, cyngor ac awgrymiadau am gadw’n iach.
Cynnig opsiynau iachach
Darparu opsiynau bwyd iach a mynediad hawdd i ddŵr. Gall gwneud hyn hyrwyddo gwell arferion bwyta ac yfed.
Cefnogi llesiant yn y gweithle y tu hwnt i Ddiwrnod Iechyd y Byd
Mae Diwrnod Iechyd y Byd yn ffordd wych o gychwyn y sgwrs. Ond bydd cefnogi iechyd a llesiant gweithwyr drwy gydol y flwyddyn yn cael effaith fwy a pharhaol.
Fel cyflogwr, gallwch:
Rhannu gwybodaeth iechyd
Defnyddio eich sianeli cyfathrebu i rannu gwybodaeth a chyngor yn rheolaidd am iechyd a llesiant.
Rhoi mynediad i adnoddau iechyd
Cyfeirio gweithwyr at sefydliadau dibynadwy fel y GIG (yn agor mewn ffenestr newydd) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd) am gyngor a chefnogaeth iechyd dibynadwy.
Annog archwiliadau rheolaidd
Cefnogi eich gweithwyr i drefnu a mynychu unrhyw apwyntiadau meddygol. Gall hyn gynnwys sesiynau sgrinio iechyd (yn agor mewn ffenestr newydd).
Gwneud llesiant yn rhan o ddiwylliant y gweithle
Rhoi sylw i iechyd a llesiant wrth drefnu arferion dyddiol. Gall mentrau syml helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Cymryd rhan
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Niwrnod Iechyd y Byd, ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
I ddarganfod mwy am amrywiaeth o bynciau iechyd a llesiant, ewch i’n rhestr Iechyd A-Y. Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn ein e-fwletin i gael diweddariadau.
- Ymgyrch