
Diwrnod Iechyd y Geg y Byd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch pam mae hylendid y geg yn bwysig a sut, fel cyflogwr, y gallwch godi ymwybyddiaeth, darparu cymorth, ac annog arferion da yn y gweithle.
Gwerth hyrwyddo Diwrnod Iechyd y Geg y Byd
Mae iechyd y geg da yn bwysig i’n llesiant. Mae cefnogi Diwrnod Iechyd y Geg y Byd yn gallu:
- Annog gwell hylendid y geg yn eich gweithle
- Lleihau diwrnodau salwch a achosir gan broblemau deintyddol y gellir eu hatal
- Helpu gweithwyr i sylwi ar broblemau deintyddol yn gynnar
- Creu diwylliant yn y gweithle sy’n gwerthfawrogi iechyd a llesiant ei weithwyr.
Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud
Dyma rai ffyrdd syml o annog eich gweithwyr i ofalu am eu dannedd a’u deintgig:
Rhannu cynghorion iechyd y geg
Rhoi cyngor hawdd ar frwsio, fflosio ac archwiliadau deintyddol rheolaidd.
Cynnal sesiwn iechyd deintyddol
Gwahodd arbenigwyr i rannu awgrymiadau ar arferion da ac atal problemau.
Darparu opsiynau iach
Cynnig dewisiadau bwyd iach fel ffrwythau, cnau a chynhyrchion llaeth yn lle byrbrydau llawn siwgr.
Annog hydradiad
Hyrwyddo dŵr yfed dros ddiodydd llawn siwgr i helpu i atal pydredd dannedd.
Codi ymwybyddiaeth o wasanaethau deintyddol y GIG
Rhannu gwybodaeth am sut i gael mynediad at ofal deintyddol fforddiadwy.
Cymryd Rhan
Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Niwrnod Iechyd y Geg y Byd a chael mynediad at adnoddau ar wefan Diwrnod Iechyd y Geg y Byd (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.
- Ymgyrch