
Diwrnod Rhyngwladol y Dynion
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Gwefan
- https://ukmensday.org.uk
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Rhyngwladol y Dynion i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles corfforol a meddyliol dynion yn y gweithle.
Manteision cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn y gwaith
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion (IMD) yn rhoi cyfle i weithle i ddechrau sgyrsiau am iechyd dynion ac annog gweithwyr gwrywaidd i flaenoriaethu eu hiechyd a’u lles.
Mae creu diwylliant yn y gweithle sy’n annog sgwrs agored am iechyd a lles yn fuddiol i weithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.
Mae’r buddion yn y gweithle yn cynnwys:
- Gwell perthynas â gweithwyr a’u cadw – mae gweithwyr yn fwy tebygol o deimlo bod y gweithle yn eu gwerthfawrogi a bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig.
- Gwellhad o ran lles y gweithwyr – gall IMD ysbrydoli a chychwyn sgwrs ynghylch iechyd meddwl a chorfforol dynion, lleihau stigma ac annog mynediad at wasanaethau cymorth
- Cryfhau enw da cyflogwr – mae sefydliadau sy’n cefnogi cydraddoldeb rhywiol ac yn dathlu mentrau fel IMD yn fwy deniadol i’r rhai sy’n chwilio am waith, yn enwedig y rhai sy’n gwerthfawrogi gweithle cynhwysol
Cymerwch ran yn Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn y gwaith
Mae yna sawl ffordd y gall eich gweithle ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Dynion.
Dyma rai pethau y gallech chi eu gwneud:
Cynnwys gweithwyr mewn cynllunio
Cymerwch amser i gasglu gwybodaeth ar pa ddiddordebau sydd gan eich gweithwyr fel y gallwch eu cynnwys mewn trafodaethau gyda threfnu a hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau.
Cynnal sgwrs neu sesiynau ‘cinio a dysgu’
Gwahodd arbenigwr i siarad â gweithwyr am iechyd dynion. Bydd hyn yn gyfle gwych i weithwyr holi unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw.
Gallwch wahodd elusennau lleol sy’n canolbwyntio ar ddynion fel men’s sheds (Seasneg yn unig) i siarad am y gwaith maen nhw’n ei wneud.
Gwella ymwybyddiaeth ac annog sgyrsiau
Defnyddiwch sianeli cyfathrebu gweithwyr i rannu gwybodaeth a chyngor am iechyd a lles dynion.
Sefydlu ffyrdd i weithwyr siarad am eu hiechyd yn gyfrinachol. Gallai’r rhain gynnwys:
- Grwpiau cymorth cyfoedion anffurfiol
- Sgyrsiau gwirio lles
- Ardaloedd tawel
Mae Tashwedd hefyd yn digwydd trwy gydol mis Tachwedd, sy’n golygu y gallwch ledaenu’ch gweithgareddau arfaethedig ar draws y mis.
Hyrwyddo iechyd dynion yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn
Gall bod yn rhagweithiol a chefnogi iechyd dynion trwy gydol y flwyddyn gael effaith gadarnhaol ar eich gweithle.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gweithle:
Annog archwiliadau
Annog gweithwyr gwrywaidd i gael archwiliadau rheolaidd, gan gynnwys monitro pwysedd gwaed a cholesterol.
Hyrwyddo testicular self-checks (Saesneg yn unig) a rhoi amser i weithwyr i fynd i apwyntiad gwirio.
Annog ymddygiad iach
Gall hyrwyddo arferion iach gefnogi gweithwyr i wneud gwell dewisiadau o ran eu ffordd o fyw. Gall hyn gynnwys:
Annog sgyrsiau
Bod yn agored a normaleiddio sgyrsiau ynghylch iechyd corfforol a meddyliol.
Defnyddio posteri, e-byst, diweddariadau ar fewnrwyd, a chyfarfodydd tîm i wella ymwybyddiaeth.
Darganfod mwy
I wybod mwy sut y gall eich gweithle gymryd rhan a derbyn adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i wefan International Men’s Day.
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch