Skip to content
Loading Digwyddiadau

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i ddathlu menywod yn y gweithle a hyrwyddo iechyd a llesiant corfforol a meddyliol menywod yn y gwaith.

Gwerth cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y gwaith

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi cyfle i weithleoedd ddathlu gweithwyr benywaidd a dechrau sgyrsiau am iechyd a llesiant menywod.

Mae gweithle cadarnhaol sy’n annog cydraddoldeb rhywiol llwyr ac yn helpu gweithwyr i aros yn iach, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn dod â llawer o fanteision i weithwyr a chyflogwyr.

Dyma rai o’r manteision:

  • Gwella cyfranogiad gweithwyr a sicrhau bod llai yn gadael
  • Mwy o fenywod mewn rolau arweinyddiaeth
  • Cryfhau enw da’r brand

Darganfyddwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.

Cymryd rhan yn Niwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y gwaith

Mae sawl ffordd y gall eich gweithle ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Dyma rai pethau y gallech chi eu gwneud:

Dathlu llwyddiant

Rhannu straeon llwyddiant gan fenywod sy’n gweithio ar draws eich sefydliad i ysbrydoli eraill.

Mae hefyd yn gyfle gwych i hyrwyddo cyfleoedd dysgu neu fentora.

Cynnal sgwrs neu sesiynau ‘cinio a dysgu’

Gwahodd arbenigwr i siarad â gweithwyr am iechyd menywod. Bydd hyn yn gyfle gwych i weithwyr holi unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw.

Gallech hefyd wahodd elusennau lleol sy’n canolbwyntio ar fenywod i siarad am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Gwella ymwybyddiaeth ac annog sgyrsiau

Defnyddio sianeli cyfathrebu gweithwyr i rannu gwybodaeth a chyngor am iechyd a llesiant menywod.

Sefydlu ffyrdd i weithwyr siarad am eu hiechyd yn gyfrinachol. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Grwpiau cymorth cyfoedion anffurfiol
  • Sgyrsiau gwirio lles
  • Ardaloedd tawel

Adolygu polisïau

Manteisio ar y cyfle i adolygu eich polisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac adolygu cyflogau.

Gallech hefyd gynnal sesiynau gyda gweithwyr i wneud yn siŵr eu bod yn deall eich polisïau ac yn gallu cyfrannu at ddiweddariadau yn y dyfodol.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Nid yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymwneud ag un diwrnod penodol yn unig ond mae’n ymwneud â’r hirhoedledd wrth gymryd camau bach tuag at gael gwared ar ragfarn rhywedd. O weithwyr i gwsmeriaid a chleientiaid, mae pawb eisiau gweld eich busnes yn gwneud ymrwymiad gwirioneddol i degwch rhywedd.

Fel cyflogwr, dylech:

  • Gydnabod gwahaniaeth rhwng y rhywiau fel mater parhaus
  • Dangos ymrwymiad eich sefydliad hyd yn hyn
  • Hyrwyddo eich ymrwymiadau arfaethedig dros y flwyddyn nesaf

Hyrwyddo iechyd menywod yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn

Gall bod yn rhagweithiol a chefnogi iechyd menywod trwy gydol y flwyddyn gael effaith gadarnhaol ar eich gweithle.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gweithle:

Annog archwiliadau

Annog gweithwyr benywaidd i gael archwiliadau rheolaidd, gan gynnwys monitro pwysedd gwaed a cholesterol.

Hyrwyddo gwasanaethau sgrinio a rhoi amser i weithwyr i fynd i apwyntiadau ar gyfer archwiliadau.

Annog ymddygiad iach

Gall hyrwyddo arferion iach gefnogi gweithwyr i wneud gwell dewisiadau o ran eu ffordd o fyw. Gall hyn gynnwys:

Cynnig cymorth menopos

Cefnogi gweithwyr sy’n mynd trwy’r menopos yw’r peth iawn i’w wneud – ac mae’n bwysig hefyd er mwyn parhau i gydymffurfio’n gyfreithiol a chreu gweithle llwyddiannus, ffyniannus.

Dysgwch fwy am gymorth menopos yn y gweithle.

Dysgu mwy

Er mwyn darganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan a derbyn adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch