
Diwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Darganfyddwch sut y gallwch gymryd camau i atal damweiniau, gwella llesiant yn y gweithle a hyrwyddo diwylliant sy’n rhoi diogelwch yn gyntaf i’ch gweithlu.
Pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y gwaith
Mae Diwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith yn tynnu sylw at bwysigrwydd amgylcheddau gwaith diogel ac iach.
Mae creu gweithle diogel ac iach yn cyfrannu at lwyddiant busnes. Fel cyflogwr, gallwch:
- Leihau anafiadau yn y gweithle a risgiau iechyd hirdymor i’ch gweithwyr
- Sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd)
- Gwella morâl a chynhyrchiant gweithwyr trwy amgylchedd gwaith diogel
- Gostwng costau sydd ynghlwm ag absenoldebau, hawliadau iawndal a throsiant staff
Ymgysylltu â gweithwyr ar Ddiwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith
Dyma rai ffyrdd y gallwch weithredu i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y gweithle:
Rhannu adnoddau
Defnyddio sianeli cyfathrebu i rannu gwybodaeth ac adnoddau am ddiogelwch yn y gweithle i weithwyr.
Cynnal sesiynau hyfforddi ar ddiogelwch
Hyfforddi gweithwyr sut i adnabod peryglon, atal damweiniau a delio ag argyfyngau. Gall hyfforddiant ymarferol neu arddangosiadau syml wneud dysgu’n fwy deniadol.
Cydnabod a dathlu llwyddiant
Defnyddio’r wythnos fel cyfle i ddathlu campau gweithwyr sydd wedi dangos ymrwymiad i ddiogelwch yn eich gweithle.
Cynnal diogelwch yn y gweithle
Dylai diogelwch yn y gweithle fod yn flaenoriaeth drwy gydol y flwyddyn. Gall cymryd agwedd ragweithiol tuag at ddiogelwch yn y gweithle eich helpu i feithrin gweithlu iachach, hapusach a mwy cynhyrchiol.
Gall cyflogwyr gymryd y camau hyn i feithrin diwylliant parhaol o ddiogelwch:
Gwirio am risgiau diogelwch
Chwilio’n rheolaidd am beryglon, ewch ati i ddatrys unrhyw broblemau a sicrhewch bod eich gweithle yn dilyn rheolau diogelwch. Defnyddio hwn fel cyfle i wella a chadw pawb yn eich gweithle ac o gwmpas yn ddiogel.
Annog staff i roi gwybod am beryglon
Creu gweithle lle mae gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth siarad am bryderon diogelwch. Cynnig ffordd hawdd iddyn nhw rannu eu pryderon, hyd yn oed yn ddienw os oes angen.
Adolygu polisïau diogelwch yn rheolaidd
Cadw gweithdrefnau diogelwch yn gyfredol ac yn berthnasol. Sicrhau bod y rhain yn weladwy ac yn hawdd i weithwyr eu cyrraedd.
Darparu hyfforddiant parhaus
Cynnig cyrsiau gloywi ar iechyd a diogelwch.
Buddsoddi mewn mentrau llesiant
Cefnogi eich gweithwyr gyda gweithleoedd ergonomeg. Sicrhau bod adnoddau iechyd meddwl ar gael yn rhwydd.
Cefnogi eich gweithwyr gyda rheoli straen, ystum da yn y gwaith, a ffyrdd o gadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.
Cymryd Rhan
Darganfyddwch fwy am Ddiwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith ar wefan y Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig,yn agor mewn ffenestr newydd).
Ewch i’n tudalen we iechyd a diogelwch yn y gweithle i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ac adnoddau.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.
- Ymgyrch