Skip to content
Loading Digwyddiadau

Diwrnod y Ddaear

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr gymryd rhan yn Niwrnod y Ddaear, gan gynnwys adnoddau i hyrwyddo amgylchedd iach yn y gwaith a chreu gweithle cynaliadwy.

Gwerth cefnogi Diwrnod y Ddaear yn y gwaith

Mae Diwrnod y Ddaear yn darparu adnoddau a syniadau i helpu i hyrwyddo amgylchedd iach.

Bydd llawer o weithwyr yn mynd â syniadau adref gyda nhw, gan annog ffrindiau ac aelodau o’r teulu i ymuno. Mae hyn yn golygu bod yr effaith yn ymestyn y tu hwnt i’r gweithle.

Gall bod yn rhan o Ddiwrnod y Ddaear eich helpu i weld ble y gellir gwneud gwelliannau i wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy. Dylech hefyd geisio creu ymwybyddiaeth fel y gall eich cwsmeriaid a hyd yn oed eich cystadleuwyr gael eu hysbrydoli i greu gweithle cynaliadwy hefyd.

Dysgwch fwy am weithleoedd cynaliadwy.

Cymryd rhan yn Niwrnod y Ddaear yn y gwaith

Gall gwaith fod yn lle gwych i gael pobl i gymryd rhan yn Niwrnod y Ddaear.

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud yn eich gweithle:

Rhannu gwybodaeth ac awgrymiadau

Y lle symlaf i ddechrau yw trwy ddweud wrth weithwyr am Ddiwrnod y Ddaear.

Rhannwch wybodaeth gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu eich staff cyn y diwrnod. Gallech gynnwys ffyrdd hawdd i bawb gymryd rhan yn y gwaith ac adref.

Trefnu digwyddiad Diwrnod y Ddaear

Mae gan wefan Diwrnod y Ddaear lawer o awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt i hyrwyddo Diwrnod y Ddaear.

Cewch syniadau am weithgareddau, fel siopa cynaliadwy, trwy lawrlwytho pecyn cymorth Diwrnod y Ddaear (Saesneg yn unig).

Trefnu sgwrs neu hyfforddiant ychwanegol

Gwahoddwch siaradwyr gwadd o elusennau lleol, gan gynnwys pynciau fel cadw gwenyn, llygredd plastig a phrynu bwyd cynaliadwy.

Lawrlwythwch y taflenni ffeithiau Diwrnod y Ddaear (Saesneg yn unig) hyn a’u rhannu â gweithwyr.

Anogwch weithwyr i wrando ar bodlediadau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd i ddysgu mwy.

Gwrandewch ar ein podlediad iechyd planedol.

Hyrwyddo gwirfoddoli amgylcheddol

Caniatewch amser i ffwrdd i weithwyr ar Ddiwrnod y Ddaear i wirfoddoli gydag elusennau amgylcheddol lleol. Gallai hyn gynnwys casglu sbwriel, plannu coed neu greu gerddi yn y gweithle.

Ewch i Gwirfoddoli Cymru i ddarganfod mwy am wirfoddoli.

Cynaliadwyedd amgylcheddol yn y gweithle

Mae creu gweithle gwyrddach o fudd i’r blaned ac i les gweithwyr.

Fel cyflogwr, mae yna lawer o gamau y gallwch chi eu cymryd i greu gweithle cynaliadwy ac iach. Dyma rai pethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw:

  • Newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy i bweru eich safle busnes a’ch cerbydau
  • Gwella ansawdd aer yn eich busnes ac o amgylch eich busnes
  • Ymchwilio i ôl-osod eich adeiladau busnes ar gyfer gwell effeithlonrwydd ynni
  • Ailgylchu neu roi hen offer swyddfa i elusen

Dysgwch fwy am weithleoedd cynaliadwy.

Dysgu mwy

Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Diwrnod y Ddaear a chael mynediad at adnoddau ar wefan Diwrnod y Ddaear (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch