
Gorffennaf Di Blastig
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr gymryd rhan yng Ngorffennaf Di Blastig, gan gynnwys adnoddau ac asedau i'w defnyddio i hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu yn y gweithle.
Gwerth cefnogi Gorffennaf Di Blastig yn y gwaith
Mae Gorffennaf Di Blastig yn cynnig adnoddau a syniadau i helpu i leihau gwastraff plastig untro bob dydd.
Bydd llawer o weithwyr yn mynd â syniadau adref gyda nhw, gan annog ffrindiau ac aelodau o’r teulu i ymuno. Mae hyn yn golygu bod yr effaith yn ymestyn y tu hwnt i’r gweithle.
Bydd bod yn rhan o Orffennaf Di Blastig yn eich helpu i ddod o hyd i ddewisiadau amgen gwych a all ddod yn arferion newydd am byth.
Cymerwch ran yng Ngorffennaf Di Blastig yn y gwaith
Gall gwaith fod yn lle gwych i gael pobl i gymryd rhan yng Ngorffennaf Di Blastig.
Dyma rai pethau y gallech eu gwneud yn eich gweithle:
Rhannu gwybodaeth ac awgrymiadau
Y lle symlaf i ddechrau yw dweud wrth weithwyr am Orffennaf Di Blastig.
Rhannwch wybodaeth gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu eich staff trwy gydol y mis. Gallech gynnwys ffyrdd hawdd i bawb gymryd rhan yn y gwaith ac yn y cartref.
Mae gan Gorffennaf Di Blastig wybodaeth am ymgysylltu â chydweithwyr yn ystod y mis (Saesneg yn unig).
Archwilio biniau
Mae archwilio biniau yn ffordd wych o ddeall pa wastraff rydych chi’n ei greu a gwirio beth y gellir ei osgoi, ei ailgylchu neu ei gompostio.
Gallwch ddefnyddio’r canllaw archwilio biniau hwn gan Gorffennaf Di Blastig (Saesneg yn unig).
Ceginau yn y gweithle
Dewiswch wrthod plastigau untro yng nghegin eich gweithle.
Anogwch weithwyr i gyfnewid eitem blastig untro maen nhw’n ei ddefnyddio am ddewis arall. Hyrwyddwch ddefnydd o gwpanau coffi a chynwysyddion cinio y gellir eu hailddefnyddio.
Gallwch ddefnyddio hyn i ddechrau sgwrs am ba eitemau eraill y gellid eu cyfnewid yng ngheginau eich gweithle.
Mae gan Gorffennaf Di Blastig wybodaeth am ddewisiadau amgen i blastig untro (Saesneg yn unig).
Cynaliadwyedd amgylcheddol yn y gweithle
Mae creu gweithle gwyrddach o fudd i’r blaned ac i les gweithwyr.
Fel cyflogwr, mae camau syml y gallwch eu cymryd i greu gweithle cynaliadwy ac iach. Dyma rai pethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw:
Cyflwyno arferion gwyrdd
Lleihau’r defnydd o ynni a newid i ffynonellau adnewyddadwy.
Gall ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau ac osgoi plastigau untro leihau lefelau gwastraff yn sylweddol.
Hyrwyddo teithio cynaliadwy
Gall annog beicio i’r gwaith neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus helpu i leihau allyriadau carbon.
Darganfod mwy am gynaliadwyedd amgylcheddol yn y gweithle.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle chi gymryd rhan, gan gynnwys adnoddau y gallwch eu defnyddio trwy gydol yr wythnos, ewch i wefan Gorffennaf Di Blastig (Saesneg yn unig).
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch