
Gweminar ADHD yn y Gwaith
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Ymunwch â ni am Weminar diddorol ac addysgiadol ar ADHD yn y gweithle, lle byddwn yn archwilio sut y gall gweithleoedd ledled Cymru hyrwyddo niwroamrywiaeth yn y gweithle.
Bydd Aimee Smith, ein siaradwr arbenigol, yn ein tywys drwy’r canlynol:
- Beth yw Niwroamrywiaeth ac ADHD a pham mae’n bwysig i’r gweithle
- Cydnabod cryfderau talent niwroamrywiol
- Manteision gweithlu cynhwysol
- Ffyrdd syml o gefnogi gweithwyr ag ADHD tra yn y gwaith
- Sut i ddechrau neu adeiladu ar gynnydd a wnaed eisoes
Bydd Rhian Gleed – Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle ar gyfer Cymru Iach ar Waith – yn ymuno â hi i rannu enghreifftiau o’r hyn a all weithio i gefnogi gweithwyr yn eich sefydliad.
Bydd Aimee yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb byw ar ddiwedd y weminar. Anfonwch eich cwestiynau cyn i’r weminar ddod i ben.
- Dyddiad: Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2025
- Amser: 10:00 – 11:00
- Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)
Archebwch eich lle nawr!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.
- Gweminar