Skip to content
Loading Digwyddiadau

Gweminar deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle – Cefnogaeth Ymarferol i Gyflogwyr

Ymunwch â ni am gyfres weminarau dwy ran ddifyr ac addysgiadol ‘Deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle' sy'n archwilio sut y gall sefydliadau ledled Cymru fynd i'r afael â'r risg o wrthdaro yn y gweithle a'i leihau.

Yn sesiwn un bydd y siaradwr arbenigol Debbie Lane OBE, Uwch Gynghorydd Busnes ACAS, yn archwilio:

  • Beth yw gwrthdaro yn y gweithle a pham mae’n codi
  • Ymyrraeth gynnar: sylwi ar faterion cyn iddynt ddod yn niweidiol
  • Offer, canllawiau a chefnogaeth gan ACAS ar gael i gyflogwyr

Byddwch hefyd yn clywed gan Pauline Mould, Ymgynghorydd Iechyd yn y Gweithle, a fydd yn rhannu enghreifftiau o sut y gall sefydliadau gefnogi gweithwyr i aros yn iach ac yn gynhyrchiol tra yn y gwaith.

Bydd y sesiwn yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, a bydd Debbie Lane OBE yn ymateb i gwestiynau a gyflwynwyd ymlaen llaw.

  • Dyddiad: 12 Mawrth 2026
  • Amser: 10:00-11:00
  • Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Archebwch eich lle nawr!

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu.


  • Gweminar