Loading Digwyddiadau

Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad
Lleoliad
Microsoft Teams

Ymunwch â Gweminar Cymru Iach ar Waith (CIW) Am Ddim: Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) ar gyfer Cyflogwyr – Yn ôl oherwydd Galw Mawr!

Yn dilyn diddordeb mawr a’r adborth cadarnhaol a gafwyd yn dilyn ein sesiwn flaenorol, mae Cymru Iach ar Waith yn falch o gynnig ail gyfle i ymuno â’n gweminar am ddim: Gweminar Rheoli Absenoldeb Salwch (MSA) i Gyflogwyr.

Wrth i anghenion gweithwyr esblygu a chostau sefydliadol barhau i godi, mae bod â strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch yn bwysicach nag erioed.

Bydd y sesiwn ymarferol hon a gyflwynir gan Gynghorwyr CIW, yn rhoi cipolwg hanfodol i’ch helpu i wella llesiant yn y gweithle a lleihau absenoldeb.

  • Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
  • Amser: 10:30 – 11:30
  • Platfform: Microsoft Teams

Gallwch gymryd rhan am ddim.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

  • Tueddiadau o ran absenoldeb oherwydd salwch yng Nghymru a’r DU
  • Sut mae cael gweithwyr i ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd
  • Mewnwelediadau gan Cartrefi Melin (Hedyn) ar reoli absenoldeb salwch yn effeithiol
  • Sut mae cael gafael ar adnoddau gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar reoli absenoldeb oherwydd salwch.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael mynediad at ganllawiau arbenigol ac offer ymarferol i gefnogi eich sefydliad—yn rhad ac am ddim.

Siaradwyr

  • Nikki Davies, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • Deanna Hughes, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: [email protected].

Cofrestrwch erbyn dydd Mercher 4 Mehefin.


  • Gweminar