Loading Digwyddiadau

Ionawr COCH

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Ionawr COCH i annog gweithwyr i symud mwy yn y gwaith er budd iechyd a lles corfforol a meddyliol.

Pwysigrwydd cefnogi Ionawr COCH yn y gwaith

Mae Ionawr COCH yn ymgyrch genedlaethol sy’n annog pobl i symud mwy bob dydd trwy gydol mis Ionawr i gefnogi eu lles meddyliol.

Mae gweithle cadarnhaol sy’n annog symud a gweithgarwch rheolaidd yn helpu gweithwyr i gadw’n iach, yn hapus ac yn llawn cymhelliant. Gall cadw i symud yn rheolaidd:

  • Rhoi hwb i egni a ffocws
  • Lleihau straen a gwella hwyliau
  • Lleihau’r risg o broblemau iechyd fel poen cefn a diffygiad (burnout)

Dysgwch fwy am greu gweithleoedd egnïol.

Cymryd rhan yn Ionawr COCH yn y gwaith

Mae yna lawer o ffyrdd gwahanol o gymryd rhan yn Ionawr COCH. Wrth gynllunio gweithgareddau, cofiwch eu gwneud yn addas a chynhwysol i weithwyr ag anabledd.

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud yn eich gweithle:

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Defnyddiwch gylchlythyrau, tudalennau’r mewnrwyd neu negeseuon e-bost staff i rannu syniadau ar gyfer gweithgareddau.
Hyrwyddwch fanteision symud yn rheolaidd ar gyfer cynnal iechyd corfforol a meddyliol.

Cyfeiriwch y gweithwyr at grwpiau neu glybiau chwaraeon lleol y gallan nhw ymuno â nhw y tu allan i’r gwaith.

Trefnu gweithgareddau yn y gweithle

Anogwch weithwyr i symud mwy yn ystod eu diwrnod gwaith gyda gweithgareddau syml, diddorol:

  • Trefnu sesiynau blasu amser cinio fel ioga neu Pilates
  • Trefnu teithiau cerdded
  • Annog seibiannau egnïol i ffwrdd o’r ddesg neu rannu ymarferion ymestyn y gellir eu gwneud wrth eistedd i lawr

Sefydlu her yn y gweithle

Gallwch greu her symudiad cyfeillgar lle mae gweithwyr yn tracio eu gweithgaredd dyddiol. Gall cystadleuaeth gyfeillgar fod yn ffordd wych o ysgogi gweithwyr i gymryd rhan a symud mwy.

Dathlwch pob cynnydd a chyfle i rannu stori o llwyddiant trwy gydol y mis i ysgogi eraill i gymryd rhan hefyd.

Cynnal gweithle egnïol drwy gydol y flwyddyn

Er bod Ionawr COCH yn fan cychwyn gwych, mae hyrwyddo symudiad drwy gydol y flwyddyn yn helpu i gynnal iechyd a lles hirdymor.

Mae ffyrdd eraill o annog gweithwyr i symud a bod yn egnïol yn cynnwys:

Hyrwyddo dewisiadau teithio gwyrdd

Darparwch adnoddau ar gyfer mynd i’r gwaith gan ddefnyddio llwybrau beic neu gerdded.

Atgoffwch staff y gall defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn aml gynnwys mwy o gerdded na gyrru’n uniongyrchol i’r gwaith.

Annog arferion iach yn y gweithle

Hyrwyddwch weithredoedd dyddiol bach fel cymryd y grisiau neu barcio ymhellach i ffwrdd o’r gwaith.

Cynigiwch ddesgiau sefyll neu ardaloedd hyblyg i leihau’r amser o fod yn llonydd.

Defnyddio cymorth gan wasanaethau eraill

Mae yna amrywiaeth o sefydliadau sy’n gallu eich helpu chi a’r gweithwyr i greu gweithle mwy actif:

Mwy o wybodaeth ar gael am sut y gall cyflogwyr hyrwyddo gweithleoedd actif.

Mwy o wybodaeth

Ewch i wefan RED January (Saesned yn unig) i weld adnoddau a syniadau ymgyrchu ar gyfer eich gweithle.

Cadwch lygad ar ymgyrchoedd iechyd a lles yn y dyfodol drwy gofrestru i’n cylchlythyr.


  • Ymgyrch