Loading Digwyddiadau

Mis Cerdded Cenedlaethol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Fel cyflogwr, gallwch hyrwyddo Mis Cerdded Cenedlaethol i annog staff i fod yn fwy egnïol, gan eu helpu i deimlo'n well a chynyddu llesiant yn y gweithle.

Manteision cerdded i iechyd y gweithle

Mae cerdded yn ffordd hawdd o helpu gweithwyr i gadw’n iach a theimlo’n dda. Fel cyflogwr, mae annog cerdded yn gallu:

  • Gwella iechyd corfforol a lleihau’r risg o salwch hirdymor
  • Gwella llesiant drwy leihau straen a phryder
  • Cynyddu egni a’r gallu i ganolbwyntio yn y gwaith
  • Cryfhau cysylltiadau tîm ac ymgysylltiad
  • Cefnogi cynlluniau teithio cynaliadwy ac amgylcheddol

Ymgysylltu â gweithwyr yn ystod Mis Cerdded Cenedlaethol

Gall annog cerdded yn y gwaith wneud eich gweithle yn lle mwy cadarnhaol a chynhyrchiol. Dyma rai ffyrdd i hyrwyddo cerdded yn y gwaith:

Codi ymwybyddiaeth

Rhannu’r manteision o fod yn egnïol trwy eich sianeli cyfathrebu â gweithwyr.

Dechrau her cerdded yn y gweithle

Gosod nodau o ran camau a gadael i weithwyr gystadlu mewn ffordd gyfeillgar. Gallech ddewis cynnig gwobrau bach neu gydnabyddiaeth i’r rhai sy’n cyrraedd cerrig milltir.

Trefnu digwyddiadau llesiant yn y gweithle

Cynllunio heriau camau, dosbarthiadau ffitrwydd, neu sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar i gadw staff yn ymgysylltiedig.

Cefnogi llesiant yn y gweithle y tu hwnt i’r Mis Cerdded Cenedlaethol

Hyrwyddo arferion iach a ffyrdd o fod yn egnïol drwy gydol y flwyddyn yn eich gweithle. Dyma rai pethau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw:

Annog symud yn ddyddiol

Rhoi amser a lle i weithwyr symud o gwmpas yn ystod seibiannau a chyfarfodydd.

Hyrwyddo cyfarfodydd cerdded

Yn hytrach nag eistedd mewn ystafell, ceisiwch gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored. Mae bod yn yr awyr agored yn gallu gwneud sgyrsiau yn fwy diddorol a chreu syniadau newydd.

Sefydlu grwpiau cerdded

Trefnu teithiau cerdded tîm wythnosol yn ystod seibiannau er mwyn helpu gweithwyr i gadw’n heini a chymdeithasu gyda’i gilydd.

Gwella cyfleusterau yn y gweithle

Ceisio’i gwneud hi’n haws i’ch staff fod yn egnïol trwy ddarparu lle diogel i storio beiciau, ystafelloedd newid neu fapiau ar gyfer llwybrau cerdded sydd gerllaw.

Cefnogi teithio llesol

Ystyried cynnig gostyngiadau trafnidiaeth gyhoeddus neu gynllun beicio i’r gwaith i wneud teithio llesol yn fwy apelgar.

Partneru gyda darparwyr gweithgareddau lleol

Trefnu dosbarthiadau yn y gampfa, dosbarthiadau ioga neu ostyngiadau grŵp cerdded i weithwyr er mwyn ei gwneud yn haws i fod yn egnïol.

Cymryd Rhan

Dysgu sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn y Mis Cerdded Cenedlaethol a chael adnoddau ar wefan Strydoedd Byw (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).

Gallwch ddarganfod mwy am fanteision gweithgarwch corfforol i fusnesau a gweithwyr ar ein tudalen we gweithle egnïol.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y flwyddyn am ymgyrchoedd iechyd a llesiant, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.


  • Ymgyrch