
Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Lleoliad
- UK-Wide
Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau yn helpu pobl i ddysgu am ganfod canser yn gynnar a sut i siarad yn agored am iechyd dynion.
Pam hyrwyddo mis ymwybyddiaeth canser y ceilliau?
Gall canser y ceilliau effeithio ar unrhyw un sydd â cheilliau, gan gynnwys dynion, menywod traws, a phobl a bennwyd fel gwrywod adeg eu geni. Mae’n fwyaf cyffredin rhwng 25 a 40 oed ond gall ddigwydd ar unrhyw oedran. Os caiff ei ddal yn ddigon cynnar mae gennych siawns uchel iawn o oroesi (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
Gall siarad am ganser y ceilliau yn y gwaith helpu i’w gwneud hi’n normal i ddynion siarad am iechyd, chwalu stigma, ac annog gwiriadau cynnar – a allai achub bywydau.
Cefnogi gweithwyr sy’n cael eu heffeithio gan ganser y ceilliau
Fel cyflogwr, mae cefnogi gweithwyr sy’n cael eu heffeithio gan ganser y ceilliau, p’un a ydyn nhw wedi cael diagnosis eu hunain neu’n gofalu am rywun, yn mynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth.
Trwy gynnig y cymorth cywir, gallwch helpu eich staff i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn derbyn gofal, ac yn gallu rheoli eu hiechyd a’u llesiant.
Dyma rai pethau y gallwch chi ystyried eu gwneud yn eich gweithle:
Cynnig amser hyblyg i ffwrdd
Caniatáu i weithwyr gymryd amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau meddygol, adferiad, neu i gefnogi rhywun sy’n annwyl iddyn nhw.
Gwneud polisïau’r gweithle yn glir ac yn gynhwysol
Sicrhau bod gweithwyr yn deall eu hawliau o ran absenoldeb sy’n gysylltiedig ag iechyd ac unrhyw addasiadau rhesymol.
Darparu cymorth iechyd meddwl
Atgoffa gweithwyr am y gwasanaethau sydd ar gael, fel Rhaglenni Cymorth i Weithwyr a gofyn am help gan eu meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol.
Annog y defnydd o wasanaethau Cymorth yn y Gwaith
Rhoi gwybod i weithwyr a allai fod angen mynediad at wasanaethau therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a therapi seicolegol am y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.
Creu gweithle caredig a chefnogol
Annog pawb i fod yn ofalgar a dangos dealltwriaeth pan fydd rhywun yn mynd trwy gyfnodau anodd.
Sut i gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau yn y gwaith
Gall cymryd camau bach helpu i greu gweithle lle mae’ch gweithwyr yn teimlo’n wybodus, yn cael eu cefnogi a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.
Gall hyn gynnwys:
Codi ymwybyddiaeth am ganfod canser yn gynnar
Rhannu gwybodaeth glir am symptomau a hunan-wiriadau (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
Annog sgyrsiau agored
Creu gweithle lle mae siarad am iechyd dynion yn cael ei annog a’i gefnogi.
Dangos eich bod yn malio
Gwneud iechyd dynion yn rhan allweddol o’ch cynlluniau llesiant yn y gweithle.
Defnyddio cyfathrebu yn y gweithle
Rhannu gwybodaeth am Fis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau drwy sianeli cyfathrebu â staff.
Darparu mynediad i gymorth
Sicrhau bod eich staff yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth dibynadwy. Mae mwy o wybodaeth am ganser y ceilliau i’w gweld ar wefan Macmillan (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
Cymryd Rhan
Dysgwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau a chael mynediad at adnoddau ar wefan Macmillan (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.
- Ymgyrch