
Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron i hyrwyddo ymwybyddiaeth o symptomau canser y fron a phwysigrwydd hunan-wiriadau a sgrinio.
Gwerth cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron yn y gwaith
Gall unrhyw un gael canser y fron, gan gynnwys dynion. Dewch i’r arfer o wirio’ch hun trwy roi nodyn atgoffa yn eich ffôn neu ddyddiadur.
Fel cyflogwr, mae cefnogi gweithwyr y mae canser y fron yn effeithio arnynt, p’un a ydyn nhw wedi cael diagnosis eu hunain neu’n gofalu am rywun, yn mynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth.
Trwy gynnig y cymorth cywir, gallwch helpu eich gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael gofal, ac yn gallu rheoli eu hiechyd a’u llesiant.
Cael eich gweithle i gymryd rhan ym mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron
Dyma rai pethau y gallwch chi ystyried eu gwneud yn eich gweithle yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron:
Gwisgo pinc
Pinc yw lliw swyddogol Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Gallech annog staff i wisgo pinc i’r gwaith neu ymgorffori’r lliw i weithgareddau yn y gweithle.
Trefnu digwyddiad
Gall codi arian fod yn weithgaredd hwyliog ac iach yn y gweithle neu y tu allan i’r gweithle. O foreau coffi, teithiau cerdded noddedig neu werthu cacennau, mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan. Gall gweithgareddau fel hyn fod yn dda hefyd ar gyfer morâl a lles gweithwyr.
Gallwch gofrestru ar gyfer gan Breast Cancer Now (Saesneg yn unig).
Hyrwyddo sgrinio’r fron
Hyrwyddo sgrinio’r fron ac annog sgwrs agored am iechyd y fron.
Os oes gennych weithwyr sydd â rôl weithredol i hyrwyddo iechyd yn eich gweithle, gallant gofrestru ar gyfer sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn
Gall cymryd camau bach helpu i greu gweithle lle mae’ch gweithwyr yn teimlo’n wybodus, yn cael eu cefnogi a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:
Codi ymwybyddiaeth am ganfod canser yn gynnar
Rhannu gwybodaeth glir am symptomau ahunan-wiriadau.
Annog sgyrsiau agored
Creu gweithle lle mae siarad am iechyd yn cael ei annog a’i gefnogi.
Rhannu gwybodaeth am Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron drwy sianeli cyfathrebu â staff.
Dangos eich bod yn malio
Gwneud materion iechyd yn rhan allweddol o’ch cynlluniau llesiant yn y gweithle.
Dangos ble i gael cymorth
Sicrhau bod eich staff yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth dibynadwy.
Mae rhagor o wybodaeth am ganser y fron a gwasanaethau sgrinio Bron Brawf Cymru ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Darganfod mwy
Am fwy o wybodaeth am sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron a chael adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i wefan Breast Cancer Now (Saesneg yn unig).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch