Skip to content
Loading Digwyddiadau

Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau i godi ymwybyddiaeth, rhannu adnoddau a chefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt gan ganser yr ofarïau.

Gwerth hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau yn y gweithle

Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau yn rhoi cyfle i chi hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau a’r arwyddion i’w hadnabod.

Fel cyflogwr, mae cefnogi gweithwyr sy’n cael eu heffeithio gan ganser yr ofarïau, p’un a ydyn nhw wedi cael diagnosis eu hunain neu’n gofalu am rywun, yn mynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth.

Trwy gynnig y cymorth cywir, gallwch helpu eich gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael gofal, ac yn gallu rheoli eu hiechyd a’u llesiant.

Hyrwyddo Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau yn y gwaith

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud yn eich gweithle yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau:

Codi ymwybyddiaeth

Rhoi gwybod i weithwyr ei fod yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau a’u hannog i gymryd rhan.

Gallwch rannu gwybodaeth ac adnoddau, gan gynnwys symptomau cyffredin canser yr ofarïau. Mae Target Ovarian Cancer yn rhannu ffyrdd o godi ymwybyddiaeth yn eu pecyn cymorth digidol (Saesneg yn unig).

Trefnu digwyddiadau llesiant yn y gweithle

Cynllunio digwyddiadau yn y gweithle sy’n ymgorffori iechyd a llesiant, fel her camau, er mwyn parhau i ennyn diddordeb staff.

Darparu lle diogel i weithwyr gael sgyrsiau am ganser yr ofarïau a phynciau iechyd eraill.

Darparu sesiynau addysgol

Gwahodd gweithwyr iechyd proffesiynol i’ch gweithle i siarad am ganser yr ofarïau, y ffactorau risg a sylwi ar symptomau.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn

Gall cymryd camau bach helpu i greu gweithle lle mae’ch gweithwyr yn teimlo’n wybodus, yn cael eu cefnogi a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:

Codi ymwybyddiaeth am ganser

Gwneud materion iechyd yn rhan allweddol o’ch cynlluniau llesiant yn y gweithle.

Rhannu gwybodaeth am ymgyrchoedd fel Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau trwy sianeli cyfathrebu staff.

Gallwch ddefnyddio ein hadran ymgyrchoedd a digwyddiadau i ddod o hyd i ragor o ymgyrchoedd i’w cefnogi.

Annog sgyrsiau agored

Gall siarad yn agored am ganser helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella canlyniadau.

Annog gweithwyr i gael sgyrsiau agored a hyrwyddo how to talk about cancer (Saesneg yn unig) yn eich gweithle.

Dangos ble i gael cymorth

Gwneud yn siŵr bod eich staff yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth dibynadwy.

Ystyried rhannu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy gan gynnwys:

Dysgu mwy

Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau a chael mynediad at adnoddau defnyddiol ar wefan Target Ovarian Cancer (Saesneg yn unig).

Gallwch hefyd gael diweddariadau rheolaidd am ymgyrchoedd llesiant trwy gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch