
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut i helpu gweithwyr i ddeall risgiau amlygiad i'r haul a phwysigrwydd amddiffyn eu croen.
Gwerth hyrwyddo diogelwch yn yr haul yn y gweithle
Fel cyflogwr, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i amddiffyn gweithwyr rhag niwed o’r haul. Trwy annog diogelwch yn yr haul, gallwch:
- Leihau’r risg o losg haul a niwed hirdymor i’r croen
- Lleihau salwch sy’n gysylltiedig â’r haul, ac amser i ffwrdd o’r gwaith
- Gwella llesiant gweithwyr drwy godi ymwybyddiaeth o amddiffyniad UV
- Dangos ymrwymiad i iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Hyrwyddo diwylliant yn y gweithle sy’n gwerthfawrogi iechyd a llesiant
Hyrwyddo Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen yn y gwaith
Mae Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen yn rhoi cyfle i chi hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y croen a’r arwyddion i’w hadnabod.
Dyma rai ffyrdd y gallwch chi ymgysylltu â’ch gweithwyr yn ystod y mis:
Codi ymwybyddiaeth
Gadael i weithwyr wybod ei fod yn Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen gan eu hannog i gymryd rhan.
Rhannu adnoddau
Rhannu awgrymiadau hawdd eu deall ar risgiau canser y croen ac amddiffyniad rhag hynny.
Darparu sesiynau addysgol
Gwahodd arbenigwyr i siarad am ddiogelwch yn yr haul a sut i adnabod arwyddion cynnar o ganser y croen.
Hyrwyddo diogelwch yn yr haul yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i hyrwyddo diogelwch yn yr haul trwy gydol y flwyddyn. Dyma rai camau syml a all wneud gwahaniaeth mawr:
Darparu amddiffyniad rhag yr haul
Cynnig eli haul, hetiau a dillad amddiffyn rhag UV, yn enwedig ar gyfer gweithwyr awyr agored.
Annog gwiriadau croen
Atgoffa eich gweithwyr i wirio eu croen a gofyn am gyngor meddygol os byddan nhw’n sylwi ar newidiadau.
Cefnogi gweithwyr awyr agored
Darparu mannau gorffwys cysgodol a threfnu seibiannau pan fydd yr haul ar ei gryfaf.
Darganfyddwch fwy ar ein gwefan diogelwch yn yr haul.
Darganfod mwy
Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen a chael mynediad at adnoddau ar wefan Macmillan (Saesneg yn unig).
I gael gwybodaeth am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch