
Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Gwefan
- https://www.imsociety.org/
Mae Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos yn tynnu sylw at effaith y menopos ar weithwyr a'r gweithle. Gall cyflogwyr yng Nghymru greu amgylchedd lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Gwerth cefnogi Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos yn y gwaith
Gall y menopos gael effaith sylweddol ar lesiant gweithwyr a’u perfformiad yn y gwaith. Mae cyflogwyr sy’n cynnig cymorth yn creu amgylchedd gwaith iachach a mwy cynhyrchiol.
Mae’r manteision allweddol yn cynnwys:
- Gweithwyr sy’n profi’r menopos yn teimlo gwelliant o ran eu llesiant a’u hyder
- Diwylliant mwy cynhwysol a chefnogol yn y gweithle
- Llai o absenoldebau a mwy o gadw staff
- Mwy o ymgysylltiad a chynhyrchiant ymhlith gweithwyr
- Cryfhau enw da cyflogwr am gefnogi llesiant y gweithlu
Gwneud Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos yn gynhwysol ac yn ddiddorol
Er mwyn sicrhau bod pob gweithiwr yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cymryd o ddifrif, ystyriwch y dulliau ymarferol hyn:
Normaleiddio sgyrsiau
Cynnwys y menopos mewn trafodaethau llesiant yn y gweithle ac annog deialog agored.
Annog dealltwriaeth drwy rwydweithiau gweithwyr, grwpiau cymorth cymheiriaid, a defnyddio iaith gynhwysol wrth gyfathrebu yn y gweithle.
Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth
Darparu hyfforddiant i reolwyr fel y gallant gefnogi gweithwyr yn effeithiol.
Rhannu adnoddau addysgol, gwahodd siaradwyr gwadd, ac annog sgyrsiau agored i leihau stigma.
Cynnig cymorth ymarferol
Darparu opsiynau gweithio hyblyg, mynediad at adnoddau llesiant, a mannau tawel i helpu i reoli symptomau.
Creu gweithleoedd sy’n ystyriol o’r menopos
Cynnig mannau tawel, cymhorthion oeri, a dillad gwaith addas.
Sicrhau bod polisïau’n adlewyrchu anghenion sy’n gysylltiedig â’r menopos, gan gynnwys absenoldeb salwch, cymorth absenoldeb ac addasiadau rhesymol.
Gwneud cymorth yn hygyrch
Darparu rhaglenni llesiant yn y gweithle, cwnsela neu grwpiau cymorth.
Cymryd rhan
Darganfyddwch fwy am Fis Ymwybyddiaeth o’r Menopos a chael adnoddau ar wefan y Gymdeithas Menopos Rhyngwladol (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
Ewch i’n tudalen we menopos i ddarganfod mwy.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.
- Ymgyrch