
Tashwedd/Movember
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Gwefan
- https://uk.movember.com/
Dysgu sut y gall cyflogwyr ddefnyddio’r ymgyrch Tashwedd/Movember i wella ymwybyddiaeth o iechyd dynion yn y gweithle ac i annog gweithwyr i siarad am eu hiechyd meddyliol a chorfforol.
Gwerth cefnogi Tashwedd/Movember yn y gweithle
Mae Tashwedd/Movember yn gyfle i ddynion yn y gweithlu ofalu am eu hiechyd ac i newid sut rydym yn meddwl am iechyd dynion.
Dyma rai manteision o gefnogi Tashwedd/Movember yn y gweithle:
- Gwell iechyd meddwl a lles i’ch gweithwyr
- Gall cefnogi dynion eu helpu i fyw’n iachach
- Gall sgyrsiau agored feithrin perthnasau cadarnhaol yn y gwaith, gan leihau straen yn y gweithle
Cyflwyno Tashwedd/Movember i’ch gweithle chi
Mae sawl ffordd y gall eich gweithle gymryd rhan yn Tashwedd/Movember.
Dyma rai pethau y gallech chi eu gwneud:
Gwella ymwybyddiaeth ac annog sgyrsiau
Defnyddio sianeli cyfathrebu eich gweithwyr i rannu gwybodaeth a chyngor am Tashwedd/Movember ac iechyd dynion trwy gydol y mis.
Sefydlu ffyrdd i weithwyr siarad am eu hiechyd yn gyfrinachol. Gallai’r rhain gynnwys:
- Grwpiau cymorth cyfoedion anffurfiol
- Sgyrsiau gwirio lles
- Ardaloedd tawel
Cynnal sgwrs neu sesiynau ‘cinio a dysgu’
Gwahodd arbenigwr i siarad â gweithwyr am iechyd dynion. Bydd hyn yn gyfle gwych i weithwyr holi unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Heriau yn y gweithle
Annog dynion i dyfu mwstas fel rhan o’r her Tashwedd/Movember. Gallech gynnal cystadleuaeth gyfeillgar i weld pwy all dyfu’r mwstas gorau.
Gall heriau ffitrwydd fod yn ffordd dda o ysgogi gweithwyr i symud mwy. Mae bod yn egnïol yn hanfodol i’n iechyd corfforol a meddyliol. Dysgwch fwy am iechyd meddwl a lles yn y gwaith.
Dysgwch fwy am Movember/Tashwedd yn y gweithle (Saesneg yn unig).
Hyrwyddo iechyd dynion yn y gwaith drwy gydol y flwyddyn
Gall bod yn rhagweithiol a chefnogi iechyd dynion trwy gydol y flwyddyn gael effaith gadarnhaol ar eich gweithle.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gweithle:
Annog archwiliadau
Annog dynion i fynd am archwiliadau rheolaidd, gan gynnwys monitro pwysedd gwaed a cholesterol.
Annog dynion i wirio eu ceilliau a rhoi amser i weithwyr fynd i apwyntiadau gwirio.
Annog ymddygiad iach
Gall hyrwyddo arferion iach gefnogi gweithwyr i wneud gwell dewisiadau o ran eu ffordd o fyw. Gall hyn gynnwys:
Annog sgyrsiau
Bod yn agored a normaleiddio sgyrsiau ynghylch iechyd corfforol a meddyliol.
Defnyddio posteri, e-byst, diweddariadau ar fewnrwyd, a chyfarfodydd tîm i wella ymwybyddiaeth.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan, ewch i wefan Tashwedd/Movember (Saesneg yn unig).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch