Loading Digwyddiadau

Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron yn y gweithle a chefnogi gweithwyr sy'n bwydo ar y fron yn y gwaith.

Gwerth cefnogi Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn y gwaith

Mae Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gweithredu ar themâu sy’n ymwneud â bwydo ar y fron.

I gyflogwyr, mae’r wythnos yn rhoi cyfle i hyrwyddo ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron yn y gweithle, rhannu adnoddau defnyddiol gyda gweithwyr ac annog sgyrsiau am fwydo ar y fron yn y gwaith.

Mae cefnogi gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith ac yn parhau i fwydo ar y fron yn cynnig manteision sylweddol i weithleoedd:

  • Cadw gweithwyr – mae staff yn fwy tebygol o aros, gan leihau costau recriwtio a hyfforddi
  • Hybu enw da – mae creu amgylchedd sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron yn cryfhau enw da eich sefydliad am gefnogi llesiant y gweithlu a chyfrifoldeb cymdeithasol
  • Arbed arian – gall cefnogi bwydo ar y fron arwain at lai o ddyddiau salwch oherwydd babanod iachach, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a lleihau costau tymor hir

Cymerwch ran yn Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn y gwaith

Dyma rai ffyrdd y gallwch ddathlu Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn eich gweithle:

Hyrwyddo bwydo ar y fron yn y gweithle

Gwnewch yn siŵr bod gweithwyr yn ymwybodol o’r polisïau sydd gennych ar waith i gefnogi bwydo ar y fron yn eich gweithle.

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Rhannwch adnoddau gyda gweithwyr trwy gydol yr wythnos gan ddefnyddio eich sianeli cyfathrebu â staff.

Gallwch ddod o hyd i gyngor, argymhellion ac astudiaethau achos i’w rhannu yn y llyfryn ACAS hwn (Saesneg yn unig).

Annog sgyrsiau

Crëwch le diogel i weithwyr rannu eu profiadau gyda bwydo ar y fron.

Gall gwneud hyn helpu i feithrin ymwybyddiaeth a hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at fwydo ar y fron yn y gweithle.

Bwydo ar y fron yn y gweithle

Dyma rai ffyrdd y gallwch ymgorffori cymorth bwydo ar y fron yn eich gweithle:

Polisïau a llawlyfrau

Dylid amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer bwydo ar y fron yn y gweithle. Dylid cynnwys sut y gall gweithwyr ofyn am drefniadau penodol wrth ddychwelyd i’r gwaith a pharhau i fwydo ar y fron.

Sicrhewch fod eich polisi ar gael i’r holl staff. Gallwch ei ychwanegu at bolisi neu lawlyfr sy’n bodoli eisoes a chynnal adolygiadau rheolaidd.

Os ydych yn fusnes llai, efallai na fydd angen polisi ffurfiol arnoch. Ond mae’n dal yn bwysig trafod cefnogaeth i fwydo ar y fron gyda gweithwyr. Gallwch ddod o hyd i fwy o gyngor, argymhellion ac astudiaethau achos yn y llyfryn hwn gan ACAS (Saesneg yn unig).

Cyfathrebu a diwylliant

Mae’n arfer da trafod trefniadau bwydo ar y fron gyda gweithwyr sy’n dychwelyd. Gallwch wneud hyn yn ystod ‘cadw mewn cysylltiad’.

Defnyddio sianeli cyfathrebu staff i rannu gwybodaeth a hyrwyddo ymgyrchoedd llesiant yn y gweithle. Gall gwneud hyn eich helpu i hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chynhwysol.

Ewch i’n hadran ymgyrchoedd a digwyddiadau i ddarganfod mwy.

Cefnogaeth yn y gweithle

Mae’n debygol y bydd angen i weithwyr sy’n dychwelyd ac sy’n parhau i fwydo ar y fron wasgu llaeth yn y gwaith, fel arfer gyda phwmp. Mae’r arfer gorau yn cynnwys darparu:

  • Seibiannau ychwanegol ar gyfer gwasgu llaeth
  • Ystafell lân, breifat gyda chlo (nid toiled)
  • Oergell ddynodedig ar gyfer storio llaeth

Mewn rhai achosion, efallai y bydd gweithwyr yn gallu bwydo’n uniongyrchol o’r fron yn ystod y diwrnod gwaith yn eu gweithle, eu cartref neu gyfleuster gofal plant. Dylai cyflogwyr ystyried a chefnogi ceisiadau i wneud hyn lle bynnag y bo modd.

Darganfod mwy

I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd a chael adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i wefan Cynghrair y Byd ar gyfer Gweithredu ar Fwydo ar y Fron (WABA) (Saesneg yn unig).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch