Wythnos Dim Syrthio
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Gwefan
- https://nofallsweek.org/
Dysgwch am bwysigrwydd diogelwch gweithio ar uchder, gwerth cefnogi No Falls Week a ffyrdd o gefnogi'r ymgyrch yn eich gweithle.
Mae Wythnos Dim Syrthio yn codi ymwybyddiaeth o syrthiadau o uchder sef prif achos anafiadau angheuol mewn gweithleoedd yn y DU.
Wedi’i threfnu gan y No Falls Foundation (Saesneg yn unig), mae’r ymgyrch yn annog cyflogwyr i adolygu asesiadau risg, gwella hyfforddiant a hyrwyddo arferion diogel ar gyfer gweithio ar uchder.
Ffyrdd o gefnogi Wythnos Dim Syrthio yn y gwaith
Dyma rai ffyrdd o gefnogi No Falls Week yn eich gweithle:
Cynnal digwyddiad
Trefnwch weithdai, sgyrsiau blwch offer, neu arddangosiadau diogelwch yn eich sefydliad i annog arferion diogel
Rhannwch wybodaeth ac adnoddau
Rhannwch wybodaeth ac adnoddau i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Dim Syrthio a diogelwch gweithio ar uchder.
Ewch i wefan Wythnos Dim Syrthio (Saesneg yn unig) am becynnau cymorth, adnoddau a ffyrdd o gymryd rhan am ddim.
Iechyd a diogelwch yn y gweithle
Mae gan bob cyflogwr yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau amgylchedd diogel ac iach.
Dyma rai ffyrdd y gallwch ymarfer iechyd a diogelwch da yn eich gweithle:
- Rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
- Darparu amgylchedd gwaith diogel
- Sicrhau cydymffurfiaeth gweithwyr
Dysgwch fwy am iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau ar weithio ar uchder ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Saesneg yn unig).
Dysgu mwy
Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Dim Syrthio a chael mynediad at adnoddau ar wefan No Falls Week (Saesneg yn unig).
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
- Ymgyrch