Loading Digwyddiadau

Wythnos Dysgu yn y Gwaith

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Fel cyflogwr, gallwch ddefnyddio Wythnos Dysgu yn y Gwaith i annog dysgu yn y gweithle, hybu ymgysylltiad staff a helpu gweithwyr i gyflawni eu nodau.

Pam mae dysgu yn y gwaith yn bwysig i gyflogwyr

Gall annog dysgu yn y gwaith:

  • Wella cymhelliant ac ymgysylltiad gweithwyr a’u cadw
  • Cefnogi twf gyrfa a dyrchafiadau mewnol
  • Cynyddu cynhyrchiant drwy wella sgiliau a gwybodaeth
  • Cryfhau gwaith tîm a chyfathrebu
  • Creu diwylliant o ddysgu ac arloesi parhaus.

Ymgysylltu â staff yn ystod Wythnos Dysgu yn y Gwaith

Dyma rai ffyrdd y gallwch wneud dysgu’n gyffrous ac yn hygyrch i weithwyr:

Cynnal sesiynau rhyngweithiol

Cynnig gweithdai, gweminarau neu siaradwyr gwadd. Mae’r rhain yn cwmpasu amrywiaeth o sgiliau a themâu.

Annog dysgu gyda chymheiriaid

Creu gofod lle gall eich gweithwyr rannu gwybodaeth ac addysgu ei gilydd.

Cefnogi opsiynau dysgu hyblyg

Darparu mynediad i gyrsiau ar-lein, podlediadau a deunyddiau darllen. Trwy wneud hyn, gall gweithwyr wedyn ddysgu ar eu cyflymder eu hunain.

Cydnabod cyfranogiad

Dathlu staff sy’n cymryd rhan gyda gwobrau, tystysgrifau neu gydnabyddiaeth yn y gweithle.

Hyrwyddo adnoddau digidol

Rhannu offer e-ddysgu, rhwydweithiau proffesiynol, ac adnoddau diwydiant.

Cefnogi dysgu yn y gweithle y tu hwnt i Wythnos Dysgu yn y Gwaith

Gall canolbwyntio ar ddysgu y tu hwnt i Wythnos Dysgu yn y Gwaith helpu’ch busnes i dyfu a chadw gweithwyr yn hapus ac ymgysylltiedig.

Dyma rai ffyrdd o wneud hyn drwy gydol y flwyddyn:

Gwneud dysgu’n rhan o waith bob dydd

Rhoi amser i weithwyr feithrin sgiliau newydd wrth weithio.

Cynnig cyllid ac adnoddau

Cefnogi gweithwyr gyda chyrsiau hyfforddi, ardystiadau, neu ddeunyddiau dysgu.

Sefydlu rhaglenni mentora

Paru gweithwyr gyda chydweithwyr profiadol i ddarparu mentoriaeth. Gall gwneud hyn hyrwyddo twf gyrfa a rhannu sgiliau.

Annog dysgu parhaus

Hyrwyddo diwylliant lle mae gweithwyr yn teimlo’n hyderus i roi cynnig ar bethau newydd.

Cymryd rhan

Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan a chael mynediad at adnoddau ar wefan Wythnos Dysgu yn y Gwaith (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).

Gallwch hefyd ymweld â’n tudalen datblygu gweithwyr i ddarganfod mwy.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.


  • Ymgyrch