Loading Digwyddiadau

Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo i godi ymwybyddiaeth bod modd atal cwympiadau a dod o hyd i ffyrdd o gefnogi gweithwyr hŷn yn y gwaith.

Pwysigrwydd cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo yn y gwaith

Mae pobl yn byw’n hirach ac yn gweithio’n hwyrach, ac mae mwy o weithwyr hŷn yng ngweithlu Cymru.

Wrth i ni fynd yn hŷn, mae cynnal gweithgarwch corfforol a gwella lefelau gweithgarwch yn rhan allweddol o heneiddio’n iach a lleihau’r risg o gwympo.

Mae manteision cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo yn y gwaith yn cynnwys:

  • Llai o absenoldebau – mae llai o gwympiadau yn arwain at lai o ddiwrnodau o salwch
  • Cefnogi oedolion hŷn – gall llawer o weithwyr fod yn oedolion hŷn eu hunain, gallant fod yn ofalwyr neu fod ganddynt aelodau hŷn o’r teulu neu ffrindiau hŷn
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – mae cefnogi’r wythnos hon yn gwella enw da eich sefydliad, gan ddangos eich bod yn poeni am les eich gweithwyr a’r gymuned ehangach

Cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo yn y gwaith

Trwy gefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo, rydych chi’n helpu i ledaenu gwybodaeth werthfawr a all fod o fudd i bawb.

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo:

Trefnu digwyddiad neu weithgareddau

Cynnal digwyddiad staff fel sgwrs amser cinio, gweithdy, neu weminar ar gwympiadau ac atal cwympo. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gwympiadau ar wefan GIG 111 Cymru.

Cynnig gweithgareddau fel sesiynau hyfforddi cydbwysedd a chryfder. Gellid cynnig sesiynau blasu Tai chi neu beth am ymuno â grŵp lleol a all ddod i’r gweithle a gwneud arddangosiadau.

Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol

Gweithiwch mewn partneriaeth â’ch cangen Age Cymru leol i godi arian neu gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiadau maen nhw’n eu trefnu yn ystod yr wythnos.

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau

Hyrwyddwch eich polisïau ar gyfer pobl hŷn, ar gyfer gofalwyr a pholisïau eraill sy’n ystyriol o deuluoedd mewn cylchlythyrau staff, ar eich mewnrwyd ac yn eich hysbysebion swyddi.

Rhannwch le diogel ar gyfer rhannu gwybodaeth a chynnal trafodaethau cyfrinachol.

Gweithwyr hŷn yn y gweithle

Mae creu gweithle lle mae gweithwyr hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi o fudd i weithwyr a busnesau.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi gweithwyr hŷn yn y gweithle, gan gynnwys hyrwyddo mentrau lles yn y gweithle, cynnig addasiadau rhesymol a sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol.

Darganfyddwch fwy ar ein tudalen gweithwyr hŷn yn y gweithle.

Darganfod mwy

I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo a chael gafael ar adnoddau i’w defnyddio, ewch i wefan Care and Repair Cymru.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.


  • Ymgyrch