Loading Digwyddiadau

Wythnos Gweithredu Dementia

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Nod Wythnos Gweithredu Dementia yw codi ymwybyddiaeth o ddiagnosis cynnar o ddementia. Dysgwch sut y gallwch helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddarparu adnoddau a gweithredu.

Pam mae ymwybyddiaeth o ddementia yn bwysig yn y gweithle

Does gan 1 o bob 3 o bobl sy’n byw gyda dementia ddim diagnosis (dolen Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).

Fel cyflogwr, gallwch wneud gwahaniaeth trwy gefnogi ymwybyddiaeth o ddementia ac annog gweithwyr i weithredu ar ddementia.

Mae codi ymwybyddiaeth yn y gwaith yn gallu:

  • Annog pawb i adnabod symptomau yn gynnar a hyrwyddo pwysigrwydd cael cymorth meddygol
  • Helpu gweithwyr i ddeall dementia a sut mae’n effeithio ar bobl a’u teuluoedd
  • Lleihau stigma a chreu gweithle lle gellir siarad am faterion iechyd yn agored

Cefnogi Wythnos Gweithredu Dementia yn y gwaith

Dyma rai ffyrdd y gallwch gefnogi Wythnos Gweithredu Dementia yn eich gweithle:

Rhannu adnoddau

Rhannu gwybodaeth am ddementia i helpu gweithwyr i ddeall y cyflwr yn well. Gallai hyn gynnwys posteri yn eich gweithle, e-byst staff, neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ewch i wefan Cymdeithas Alzheimer’s (yn agor mewn ffenestr newydd) i ddod o hyd i adnoddau defnyddiol.

Cynnal digwyddiad

Gallech drefnu stondin wybodaeth yn eich gweithle neu wahodd arbenigwr i helpu gweithwyr i ddysgu am ddementia a ffyrdd o gefnogi’r rhai yr effeithir arnyn nhw.

Cefnogaeth yn y gweithle y tu hwnt i Wythnos Gweithredu Dementia

Trwy wneud ymwybyddiaeth dementia yn rhan o ddiwylliant bob dydd eich gweithle, gallwch greu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:

Darparu hyfforddiant parhaus

Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i weithwyr drwy gydol y flwyddyn.

Creu gweithle sy’n deall dementia

Gwneud newidiadau bach yn eich gweithle i greu amgylchedd sy’n deall dementia. Gallai hyn gynnwys mannau tawel, arwyddion clir a gweithio hyblyg.

Cefnogi gofalwyr yn y gwaith

Rhoi mynediad i staff at wasanaethau cymorth ochr yn ochr â pholisïau’r gweithle. Darllenwch fwy am weithio’n hyblyg.

Cymryd rhan

Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Gweithredu Dementia a chael adnoddau ar wefan Cymdeithas Alzheimer’s (dolen Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.


  • Ymgyrch