
Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y mae cyflogwyr yn gallu defnyddio Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith i godi ymwybyddiaeth o les yn y gwaith, cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a gweithio hyblyg i weithwyr.
Gwerth cefnogi Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith
Trwy gymryd rhan yn Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith, gallwch ddangos eich ymrwymiad i les gweithwyr yn eich gweithle.
Mae hapusrwydd yn y gwaith yn bwysig i’r gweithwyr a’r gweithle. Dyma rai o’r prif fanteision:
- Profiadau gwaith cadarnhaol
- Mwy o foddhad yn y gwaith
- Cynnydd mewn perfformiad
- Cadw gweithwyr yn y swydd dros amser
Cymryd rhan yn Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith
Mae yna sawl ffordd o gymryd rhan yn Wythnos Hapusrwydd yn y Gwaith.
Dyma rai syniadau:
Trefnu gweithgareddau yn y gweithle
Trefnu gweithgareddau sy’n hyrwyddo hapusrwydd yn y gweithle. Gallai hyn gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, neu grwpiau cerdded amser cinio.
Gallwch dderbyn mwy o syniadau ar gyfer cynnal gweithgareddau llesiant ar wefan Hapus.
Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
Rhannwch awgrymiadau, straeon llwyddiant gweithwyr ac adnoddau i gefnogi hapusrwydd gweithwyr.
Gallwch wneud hyn trwy e-bost, cyfryngau cymdeithasol neu fewnrwyd eich cwmni.
Dechrau sgwrs
Creu amgylchiadau ar gyfer adborth gonest. Gofynnwch i weithwyr beth sy’n eu gwneud yn hapus yn y gwaith a sut y gallwch helpu i wella pethau.
Diwylliant gweithle cadarnhaol
Mae bod yn rhan o’r Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith yn wych, ond gallwch hefyd wneud newidiadau cadarnhaol trwy gydol y flwyddyn.
Dyma rai syniadau:
- Sefydlu cyfathrebu clir a chyson yn eich gweithle
- Buddsoddi mewn datblygiad gweithwyr
- Cynnig gweithio hyblyg
- Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Darganfod mwy
I weld sut y gall eich gweithle chi gymryd rhan, ewch i wefan International Week of Happiness (Saesneg yn unig).
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles trwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch