
Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol fel cyfle i siarad gyda gweithwyr am y peryglon o yfed alcohol, a darganfod adnoddau defnyddiol.
Gwerth cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol yn y gweithle
Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol yw cyfle’r DU i siarad am beryglon alcohol.
Mae annog sgyrsiau agored am beryglon yfed alcohol yn fuddiol i gyflogwyr a gweithwyr. Mae gweithle sy’n cefnogi’r gweithwyr yn:
- Creu awyrgylch agored o onestrwydd a dealltwriaeth
- Cryfhau perthnasoedd yn y gweithle a gwaith tîm
- Sicrhau bod y gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi
- Lleihau absenoldebau oherwydd alcohol a gormod o straen
- Gwella cynhyrchiant a lleihau risgiau diogelwch
Beth am i’ch gweithle gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol?
Fel cyflogwr, gallwch greu awyrgylch/diwylliant o ddealltwriaeth lle mae’r gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am alcohol a’i niwed.
Dyma rai camau syml ond effeithiol gallwch eu cymryd er mwyn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol:
Arwain trwy weithredu
Anogwch dimau arwain a rheolwyr i siarad yn agored am alcohol a hyrwyddo amgylchedd cefnogol.
Annog sgyrsiau
Defnyddiwch bosteri, e-byst, diweddariadau mewnrwyd, a chyfarfodydd tîm i godi ymwybyddiaeth.
Crëwch gyfleoedd “Paned a sgwrs” i annog sgyrsiau agored am alcohol a pholisïau perthnasol arall. Gallwch feddwl am gwestiynau trafod posib o flaen llaw.
Creu amgylchedd diogel
Crëwch lefydd i weithwyr siarad am bethau personol. Gall hyn gynnwys:
- Grwpiau cymorth cyfoedion anffurfiol
- Cyfarfodydd lles anffurfiol
- Ardaloedd tawel penodol
Dylech ganiatáu i’r gweithwyr ymgysylltu’n breifat trwy flychau awgrymiadau neu fforymau ar-lein.
Darparu adnoddau
Rhannwch fanylion adnoddau y gall eich gweithwyr eu defnyddio i gael cefnogaeth. Gall hyn gynnwys:
- Llinellau cymorth alcohol
- Gwasanaethau cwnsela
- Apiau lles
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Mentrau lles mewnol
Ymwybyddiaeth alcohol yn y gweithle trwy gydol y flwyddyn
Mae yna ffyrdd i hyrwyddo ymwybyddiaeth alcohol yn y gweithle trwy gydol y flwyddyn.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud:
Annog dewisiadau iach
Mae hyrwyddo arferion iach yn gallu annog eich gweithwyr i wneud dewisiadau gwell o ran ffordd o fyw. Gall hyn gynnwys yfed alcohol yn gyfrifol, polisïau dim ysmygu, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a deiet gytbwys.
Addysgu rheolwyr a gweithwyr
Mae hyfforddi gweithwyr i ddeall niwed alcohol yn helpu i greu ymwybyddiaeth a chefnogaeth. Dylai rheolwyr dderbyn hyfforddiant pellach i adnabod yr arwyddion ac ymateb yn briodol, gan sicrhau bod y gweithwyr yn cael y cymorth y maen nhw ei angen.
Dilynwch ganllawiau cyfreithiol a moesegol
Mae sicrhau bod polisïau’r gweithle yn cydymffurfio â’r gyfraith yn helpu i ddiogelu gweithwyr ac yn lleihau’r risg o gamau cyfreithiol neu gosbau am ddiffyg cymorth.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar ein tudalen am ymddygiadau caethiwus.
Darganfod mwy
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol a chael adnoddau y gallwch eu defnyddio, ewch i’r wefan Alcohol change UK (Saesneg yn unig).
I gael diweddariadau am ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
- Ymgyrch