
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn gyfle i siarad am iechyd meddwl, chwalu stigma a chreu amgylchedd gwaith iachach.
Gwerth cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Fel cyflogwr, rydych yn chwarae rhan allweddol o ran codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Mae cefnogi llesiant meddyliol eich gweithwyr yn gallu:
- Gwella llesiant ac ymgysylltiad gweithwyr
- Lleihau absenoldebau a achosir gan straen a heriau iechyd meddwl eraill
- Annog sgyrsiau agored a chwalu’r stigma ynghylch iechyd meddwl
Ymgysylltu â gweithwyr yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Dyma rai pethau y gallech roi cynnig arnyn nhw yn eich gweithle:
Annog sgyrsiau agored
Defnyddio’r wythnos i ddechrau sgyrsiau am iechyd meddwl yn eich gweithle. Annog rheolwyr ac uwch arweinwyr i siarad am iechyd meddwl gyda gweithwyr. Bydd rhannu profiadau yn helpu i greu awyrgylch cadarnhaol a chwalu’r stigma.
Cynnig gweithgareddau llesiant
Trefnu gweithgareddau sy’n hyrwyddo llesiant meddyliol da yn y gweithle. Gallai hyn gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, neu sesiynau rheoli straen.
Gallwch ddod o hyd i syniadau ar gyfer gweithgareddau llesiant ar wefan Hapus (yn agor mewn ffenestr newydd).
Defnyddio llwyfannau digidol
Rhannu awgrymiadau iechyd meddwl, straeon llwyddiant gweithwyr ac adnoddau. Gallwch wneud hyn trwy e-bost, cyfryngau cymdeithasol neu fewnrwyd eich cwmni.
Cefnogi gweithwyr y tu hwnt i Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Dylai cefnogi iechyd meddwl eich gweithwyr fod yn ymdrech barhaus. Dyma rai ffyrdd y gallwch gadw iechyd meddwl yn flaenoriaeth drwy gydol y flwyddyn:
Cael sgyrsiau agored
Trefnu sgyrsiau tîm a chyfarfodydd un-i-un rheolaidd. Darparu opsiynau cyflwyno adborth yn ddienw i annog gweithwyr i rannu unrhyw bryderon.
Annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Annog eich gweithwyr i gymryd seibiannau rheolaidd a defnyddio eu lwfans gwyliau blynyddol. Ystyried ceisiadau am weithio hyblyg gan weithwyr i’w cefnogi i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Cynnig cefnogaeth gyfrinachol
Os yn bosibl, cynnig Rhaglenni Cymorth i Weithwyr neu wasanaethau iechyd meddwl. Gallwch hefyd hyrwyddo mentrau fel y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith i weithwyr.
Hyfforddi eich rheolwyr
Rhoi’r sgiliau a’r offer i dimau arweinyddiaeth allu adnabod arwyddion o straen. Bydd hyn yn rhoi’r hyder iddyn nhw gefnogi gweithwyr lle bo angen.
Creu rhwydweithiau cymorth cymheiriaid
Ystyried cyflwyno hyrwyddwyr iechyd meddwl neu fentoriaid cymheiriaid yn eich gweithle. Darparu hyfforddiant lle bo angen a rhowch amser iddyn nhw gyflawni’r rôl hon.
Adolygu a diweddaru polisïau
Adolygu polisïau’r gweithle yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cefnogi llesiant staff, tegwch a chynhwysiant.
Gwybod sut i gefnogi cydweithiwr mewn argyfwng
Os yw rhywun yn profi argyfwng iechyd meddwl, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym a’u cefnogi yn y ffordd iawn.
Gallwch ffonio GIG 111 a dewis Opsiwn 2 os oes angen gofal iechyd meddwl brys arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod, ond nid yw eu bywyd yn y fantol.
Mae Iechyd Meddwl 111 (Opsiwn 2) ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae’n rhad ac am ddim i ffonio o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes gan y galwr gredyd yn weddill) neu o linell dir.
Cymryd Rhan
Darganfyddwch sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a chael mynediad at adnoddau ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd).
Cewch fwy o wybodaeth ar ein tudalen we iechyd a llesiant meddyliol yn y gwaith.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin.
- Ymgyrch