Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled i hyrwyddo llesiant ariannol a chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i helpu gweithwyr gyda dyled.
Gwerth cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn y gwaith
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn gyfle i weithleoedd leihau stigma, herio agweddau tuag at ddyled a helpu gweithwyr i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
Gall pryderon ariannol effeithio ar iechyd meddwl, llesiant a pherfformiad yn y gwaith. Mae creu diwylliant lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am ddyled a llesiant ariannol yn gallu helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn llai ynysig.
Gall gweithle sy’n mynd ati’n weithredol i roi cymorth i weithwyr gyda dyled a lles ariannol:
- Greu diwylliant agored o onestrwydd a dealltwriaeth
- Meithrin cadernid, gan helpu gweithwyr i reoli heriau bywyd yn fwy hyderus
- Lleihau absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â straen, gorbryder a phwysau iechyd meddwl eraill a achosir gan ddyled a phryderon ariannol
Dysgwch fwy am lesiant ariannol yn y gweithle.
Ffyrdd o gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn y gwaith
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled yn gyfle i ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o ddyled a’r cymorth sydd ar gael i weithwyr. Mae yna lawer o ffyrdd syml ac effeithiol o gymryd rhan.
Dechrau sgyrsiau am ddyled
- Codi ymwybyddiaeth o’r stigma ynghylch dyled, pam mae’n bodoli a sut y gall atal pobl rhag chwilio am help
- Annog sgyrsiau agored a chefnogol am lesiant ariannol yn y gweithle
- Hyrwyddo trafodaethau am arian a dyled gyda phartneriaid, ffrindiau a theulu, lle bo hynny’n briodol
Cynnal sesiynau ymwybyddiaeth o ddyled
- Gwahodd arbenigwr i gyflwyno sgwrs, gweminar neu sesiwn ryngweithiol ar reoli dyled a chael cymorth
- Rhannu gwybodaeth ymarferol i helpu gweithwyr i adnabod pryd y gallai fod angen cyngor arnynt
- Lle bo hynny’n briodol, ystyried rhannu profiadau bywyd gan weithwyr neu siaradwyr gwadd i helpu i normaleiddio sgyrsiau am ddyled a lleihau stigma
Hyrwyddo gwasanaethau cymorth â dyled
Cyfeirio gweithwyr at gyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddyled sydd ar gael am ddim, gan gynnwys:
- Money Helper, sy’n cynnig cyngor lleol a thros y ffôn am ddyled yn rhad ac am ddim
- StepChange (Saesneg yn unig) a’u teclyn cyngor ar ddyledion ar-lein (Saesneg yn unig)
- Y Llinell Ddyled Genedlaethol (Saesneg yn unig)
- Mind, am gymorth lle mae dyled yn effeithio ar iechyd meddwl
Llesiant ariannol yn y gweithle trwy gydol y flwyddyn
Dylai cefnogi llesiant ariannol fod yn rhywbeth sy’n digwydd yn barhaus, nid yn gyfyngedig i wythnosau ymwybyddiaeth.
Fel cyflogwr, gallwch gefnogi’ch gweithwyr trwy:
- Gael sgyrsiau cyfrinachol a chefnogol am bryderon ariannol
- Dod yn gyflogwr gwaith teg
- Hyrwyddo gwybodaeth ac adnoddau llesiant ariannol yn rheolaidd
- Cyfeirio at wasanaethau cyfrinachol ac annibynnol sy’n rhoi cyngor ar ddyled ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim
Dysgu mwy am lesiant ariannol yn y gweithle.
Dysgu mwy
Dysgu sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddyled a chael adnoddau ar wefan StepChange (Saesneg yn unig).
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a lles eraill drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
- Ymgyrch