Chwefror 2025

Croeso i E-fwletin Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein e-fwletin misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith, gan ynnwys newyddion ynghylch iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar y ffordd.

Y mis hwn:

  • Helpwch i Lunio Dyfodol Cymru Iach ar Wait
  • Ymunwch â ni mewn digwyddiad Bwrdd Crwn Iechyd a Llesiant Gweithwyr
  • Digwyddiad Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gwaith
  • Cymru Iach ar Waith ar Daith
  • Dyddiadau Allweddol ar gyfer mis Mawrth

Mae croeso i chi rannu ein e-fwletin gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

E-fwletin
Llun agos o gydweithwyr yn edrych ar liniadur ar ddesg, mae un ohonyn nhw’n pwyntio at y sgrin.

Helpwch i siapio dyfodol Cymru Iach ar Waith

Cyn hir byddwn yn lansio gwefan newydd, wedi’i dylunio i gefnogi cyflogwyr yn well, i wella iechyd a lles yn y gweithle.

Er mwyn sicrhau bod y wefan a chynlluniau marchnata’r dyfodol yn diwallu eich anghenion, rydym am glywed gennych!

Rydyn ni’n gofyn i gyflogwyr ledled Cymru wneud arolwg byr i rannu sut rydych chi’n cyrchu gwybodaeth am iechyd a llesiant yn y gweithle, pa heriau rydych chi’n eu hwynebu, a sut gallwn ni gefnogi eich busnes orau.

Bydd eich adborth yn helpu i lunio dyfodol Cymru Iach ar Waith, gan sicrhau ein bod yn darparu’r adnoddau, yr arweiniad a’r cymorth cywir i fusnesau fel eich un chi.

Diolch am eich amser!

Grŵp o bobl yn gwenu ar ei gilydd wrth eistedd mewn cynulleidfa mewn cynhadledd.

Ymunwch â ni mewn digwyddiad bwrdd crwn iechyd a llesiant gweithwyr

Ydych chi’n uwch arweinydd sy’n gwneud penderfyniadau am iechyd a llesiant gweithwyr?

Ymunwch â ni, ynghyd â Chomisiwn Bevan a CBI Cymru i archwilio’r heriau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig ag iechyd a llesiant gweithwyr.

Dyddiad: Dydd Llun, 7 Ebrill 2025

Amser: 9:30 AM – 1:15 PM

Lleoliad: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Capital Quarter 2, Caerdydd

Nod y digwyddiad bwrdd crwn hwn yw dwyn ynghyd gynrychiolwyr busnes a rhanddeiliaid allweddol i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag iechyd a
llesiant gweithwyr.

Trwy greu llwyfan i rannu profiadau, atebion ymarferol, a strategaethau arloesol, bydd y digwyddiad yn ceisio adeiladu amgylchedd cydweithredol sy’n grymuso busnesau i wella iechyd a llesiant eu gweithlu.

Person yn teipio ar gyfrifiadur.

Digwyddiad straen ac iechyd meddwl yn y gwaith

Y mis diwethaf buom yn cefnogi’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) i gyflwyno sesiwn ar-lein fel rhan o’i ymgyrch Working Minds (Saesneg yn unig).

Wedi’i hanelu at berchnogion a rheolwyr busnesau bach yng Nghymru, roedd y sesiwn yn ymdrin â sut i reoli straen yn y gweithle a hybu iechyd meddwl da i weithwyr.

Cafodd Oliver Williams, ein Hymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, gyfle i roi cyflwyniad yn ystod y sesiwn, gan rannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr a busnesau gan Cymru Iach ar Waith.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am reoli straen yn y gweithle ar ein gwefan.

Bwrdd gyda lliain glas Cymru Iach ar Waith arno a baner i'r ochr.

Cymru Iach ar Waith ar daith

Aeth Cymru Iach ar Waith i ddigwyddiad Hwb Cyflogaeth Conwy yn Llandudno yn ddiweddar: Iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle.

Rhannodd Deanna, ein Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle, y diweddariadau diweddaraf ar wasanaeth Cymru Iach ar Waith.

Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y wefan newydd sy’n cael ei datblygu, gweminarau sydd ar y gweill a llawer mwy.

Roedd gennym hefyd stondin yn y digwyddiad lle’r oedd modd i ni rwydweithio ag eraill a oedd yn bresennol a chofrestru pobl ar gyfer ein e-fwletin.

Aethom hefyd i ddau o ddigwyddiadau Siambrau Cymru fis diwethaf.

Roedd y digwyddiad rhwydwaith menywod yn gyfle gwych i rwydweithio ac ailgysylltu â
busnesau. Roedd yn wych clywed gan y siaradwyr Blessing Mutamba a Beth Baldwin, a rannodd eu syniadau, eu profiadau a’u gwaith dylanwadol.

Yn y digwyddiad iechyd dynion, roedd yn wych cael y cyfle i hyrwyddo trafodaethau am iechyd a llesiant dynion o fewn y gymuned fusnes Gymreig.

Rydym bob amser yn mwynhau cwrdd â’n rhanddeiliaid a byddwn yn mynd i ragor o
ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Dyddiadau allweddol

Diwrnod Dim Ysmygu (12 Mawrth)

Gall rhoi’r gorau i ysmygu fod y peth gorau i’ch iechyd. Mae llawer o fanteision hefyd i gael gweithlu di-fwg. Defnyddiwch Ddiwrnod Dim Ysmygu fel cyfle i annog eich gweithlu i roi’r gorau i ysmygu am byth! Ewch i Ash Cymru i gofrestru ar gyfer pecynnau cymorth.

Os oes gennych chi gyflogeion sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, cyfeiriwch nhw at Helpa Fi i Stopio, gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu rhad ac am ddim GIG Cymru.

Diwrnod Cwsg y Byd (14 Mawrth)

Gwyddom fod cwsg yn dda i’n hiechyd. Gwyddom hefyd fod cael gweithlu iach yn beth da i fusnesau.

Thema Diwrnod Cwsg y Byd eleni yw ‘Rhowch Flaenoriaeth i Iechyd Cwsg’. Gallwch ddefnyddio hwn fel cyfle i amlygu pwysigrwydd cwsg ac annog gweithwyr i fabwysiadu ymddygiad cysgu iach.

Gallwch gofrestru i fod yn gynrychiolydd (Saesneg yn unig) neu gallwch gofrestru (Saesneg yn unig) i dderbyn diweddariadau, pecynnau cymorth a llawer mwy.

Diwrnod Ailgylchu Byd-eang (18 Mawrth)

Nod Diwrnod Ailgylchu Byd-eang 2025 yw cydnabod pobl, lleoedd, busnesau a gweithgareddau sydd wedi hyrwyddo ailgylchu. Gallwch helpu i nodi’r achlysur trwy hyrwyddo arferion gwyrdd ac ymgysylltu â chystadlaethau a gweithgareddau eraill trwy wefan Global Recycling Foundation (Saesneg yn unig).

Ewch i’n tudalen we Cynaliadwyedd Amgylcheddol i ddysgu am y pethau y gallwch eu gwneud i wneud eich gweithle yn fwy ecogyfeillgar.

Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth (17-23 Mawrth)

Gall gweithwyr â chyflwr niwrolegol fel Dyslecsia, Awtistiaeth neu ADHD gael effaith gadarnhaol ar eich gweithlu.

I nodi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, bydd amserlen o ddigwyddiadau rhad ac am ddim (Saesneg yn unig) ar gyfer yr wythnos a fydd yn cynnwys trafodaethau panel a siaradwyr ysbrydoledig o amrywiaeth o gefndiroedd a phroffesiynau.

Gallwch gofrestru (Saesneg yn unig) ar gyfer cymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch. Felly rhannwch hwn gyda’ch rhwydweithiau ac ymunwch â’ch gilydd i ddathlu gwahanol feddyliau!

Gallwch hefyd ymweld â’n tudalen we niwroamrywiaeth yn y gweithle i gael rhagor o wybodaeth.

Gellir cyrchu dolenni i ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth trwy wefan CIW.