Ionawr 2025

Croeso i E-fwletin Cymru Iach ar Waith (CIW)

Blwyddyn Newydd Dda!

Mae ein e-fwletin misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith, newyddion ynghylch iechyd a llesiant yn y gweithle yn ogystal â dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar y ffordd.

Y mis hwn:

  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
  • Ymrwymiad Cymru i Ddod yn Economi Llesiant wedi cael sylw gan Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd
  • Cymru Iach ar Waith ar Daith
  • Dyddiadau Allweddol ar gyfer mis Chwefror

Mae croeso i chi rannu’r wybodaeth hon gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

E-fwletin
Llun agos o bobl yn sefyll mewn cylch gyda’i dwylo’n dal planhigyn yn y canol.

Tudalen we CIW newydd ”Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol”

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) yw busnesau’n dilyn polisïau a chamau gweithredu moesegol i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas, yr amgylchedd, a’u rhanddeiliaid.

Darganfyddwch sut y gall CCC wella iechyd a llesiant gweithwyr yn uniongyrchol wrth fod o fudd i’ch busnes.

Mae ein tudalen we newydd yn archwilio’r cysylltiad rhwng arferion CCC a llesiant yn y gweithle, ac yn cynnig camau gweithredu i gyflogwyr ddangos eu hymrwymiad i CCC.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni i ffynonellau dibynadwy, canllawiau, a phecynnau cymorth i helpu i integreiddio CCC yn eich strategaeth fusnes.

Ymrwymiad Cymru i ddod yn economi llesiant wedi cael sylw gan Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd

Mae adroddiad (Saesneg yn unig) Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Tachwedd 2024 yn amlygu Cymru fel arweinydd o ran adeiladu economi llesiant.

Drwy ganolbwyntio ar iechyd a chynaliadwyedd mewn polisïau a chyllidebau, mae Cymru yn gosod esiampl fyd-eang. Mae mentrau fel rhaglen yr economi sylfaenol, “Cymru Iachach”, a chynlluniau peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal yn dangos yr ymrwymiad hwn.

Mae’r ymdrechion hyn yn profi bod buddsoddi mewn llesiant yn hybu arloesedd a gwytnwch. Gall cyflogwyr gefnogi hyn trwy alinio strategaethau gweithle â’r syniadau blaengar hyn.

Mae’r animeiddiad Economi Llesiant hwn yn dangos sut y gall canolbwyntio ar lesiant pobl—nid elw yn unig—greu cymunedau iachach a thecach. Mae’n cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd â’r nod o wella llesiant hirdymor.

I gyflogwyr, mae hyn yn golygu creu gweithleoedd sy’n gofalu am weithwyr a’r amgylchedd, sy’n arwain at dimau hapusach a mwy cynhyrchiol. Mae hefyd yn hyrwyddo arferion cynaliadwy sydd o fudd i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am amgylcheddau gwaith iach, ewch i wefan Cymru Iach ar Waith.

Bwrdd gyda lliain glas Cymru Iach ar Waith arno a baner i'r ochr.

Cymru Iach ar Waith ar daith

Ddydd Iau 30 Ionawr, rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad Hwb Cyflogaeth Conwy yn Llandudno: Iechyd Meddwl yn y Gweithle.

Bydd Deanna Hughes yn siarad am yr ystod o wasanaethau digidol AM DDIM y mae Cymru Iach ar Waith yn eu cynnig i gyflogwyr.

Gallwch hefyd alw heibio ein stondin i ddarganfod sut y gallwn helpu eich busnes i hybu iechyd a llesiant yn y gweithle.

Dyddiadau allweddol

Diwrnod Canser y Byd (04 Chwefror)

Mae thema newydd Diwrnod Canser y Byd 2025-2027 ”United by Unique” yn gosod pobl yng nghanol gofal a’u straeon wrth galon y sgwrs.

Y tu ôl i bob diagnosis mae stori ddynol unigryw. Bydd yr ymgyrch yn archwilio gwahanol ddimensiynau gofal canser sy’n canolbwyntio ar bobl a ffyrdd newydd o wneud gwahaniaeth.

Gallwch wneud gwahaniaeth trwy gynnal digwyddiad, codi arian, siarad dros newid, neu rannu’r neges.

Diwrnod Amser i Siarad (06 Chwefror)

Eleni, mae’n ymwneud â gofyn i bobl ddod yn gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl.

Tecstiwch ffrind, siaradwch â chydweithiwr dros baned, ewch am dro gyda rhywun annwyl, rhannwch rywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #AmserISiarad – does dim ffordd gywir nac anghywir o gysylltu â rhywun ar Ddiwrnod Amser i Siarad.

Dangoswch ymrwymiad eich sefydliad i herio stigma trwy lofnodi addewid sefydliadol.

Wythnos Prentisiaethau Cymru (10 – 16 Chwefror)

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad wythnos o hyd blynyddol o brentisiaethau, a’r gwerth y maent yn eu rhoi i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru.

Anogir cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i hyrwyddo llwyddiannau anhygoel eu prentisiaid, tra’n tynnu sylw at y manteision y mae prentisiaid yn eu rhoi i’w busnes a’r economi ehangach yng Nghymru.

Cymerwch ran drwy wneud y canlynol:

  • Cynnal gweminar neu ddigwyddiad rhithwir – gwahodd rhanddeiliaid i’ch digwyddiad, a dweud wrthynt beth mae eich sefydliad yn ei wneud i gefnogi prentisiaid yng Nghymru
  • Rhannu astudiaethau achos a straeon llwyddiant ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol a defnyddio hashnod yr ymgyrch #AWWales2025
  • Hyrwyddo prentisiaethau gwag yn eich sefydliad a’u hychwanegu at wefan y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

Gellir cyrchu dolenni i ystod o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth trwy wefan CIW.