Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth a hyfforddiant i helpu pobl a busnesau i wella llesiant yn y gweithle.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys:

  • cymorth i helpu pobl gyflogedig a hunangyflogedig i reoli eu cyflwr iechyd a naill ai dychwelyd i’r gwaith neu aros mewn gwaith
  • hyfforddiant a chymorth i helpu busnesau i wella llesiant yn y gweithle

Cymhwystra ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cefnogi’r rhai sy’n delio â chyflyrau iechyd meddwl neu gyflyrau cyhyrysgerbydol.

Gallwch gael mynediad at gymorth therapiwtig cyfrinachol di-dâl os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac:

  • ar absenoldeb salwch o’r gwaith
  • yn dal i weithio ond yn ei chael hi’n anodd oherwydd eich cyflwr iechyd a bydd yn eich helpu i aros mewn gwaith

Mae hyfforddiant a chymorth di-dâl hefyd ar gael i fusnesau i helpu i wella llesiant yn y gweithle i’w gweithwyr.

Dod o hyd i’ch Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith lleol

Mae tri darparwr ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ledled Cymru. Cysylltwch â’ch gwasanaeth lleol i gael gwybod mwy am yr hyn y gallan nhw ei gynnig i chi a’ch gweithwyr.

Case UK

Os ydych chi’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerdydd, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen neu Fro Morgannwg, neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn un o’r mannau hyn, cysylltwch â Case UK am gymorth.

Ffoniwch 02921 676213 neu ewch i wefan Case UK.

Mind Canolbarth a Gogledd Powys

Os ydych chi’n byw ym Mhowys, neu os yw eich busnes wedi’i leoli ym Mhowys, cysylltwch â Mind Canolbarth a Gogledd Powys am gymorth.

Ffoniwch 01597 824411 neu ewch i wefan Mind Canolbarth a Gogledd Powys.

Strategaeth Dinas y Rhyl

Os ydych yn byw yn Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe neu Wrecsam, neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn un o’r mannau hyn, cysylltwch â Strategaeth Dinas y Rhyl i gael cymorth.

Ffoniwch 01745 336442 neu ewch i wefan Strategaeth Dinas y Rhyl.

Darganfod mwy

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith drwy gyrchu neu lawrlwytho’r ffeithlun rhyngweithiol hwn.