Gweithredu ar iechyd a llesiant yn y gweithle

Mae cymryd camau i gefnogi iechyd a llesiant eich gweithwyr o fudd i’ch gweithlu, eich gweithle a’ch busnes.

Pam y dylai cyflogwyr weithredu

Ar gyfartaledd, rydym yn treulio dros draean (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd) o’n hamser yn effro yn ein gwaith. Mae hyn yn golygu eich bod fel cyflogwr yn chwarae rhan bwysig yn iechyd a llesiant eich gweithwyr.

Yng Nghymru, mae tua 11.6 miliwn o ddiwrnodau (yn agor mewn ffenestr newydd) gwaith yn cael eu colli oherwydd salwch neu anaf bob blwyddyn. Dyma’r rhanbarth yn y DU sydd â’r gyfradd uchaf o ddiwrnodau o salwch fesul gweithiwr. Gallai hyn gael effaith sylweddol ar eich busnes.

Gellir atal llawer o achosion hirdymor absenoldebau salwch, fel straen neu anafiadau cyhyrysgerbydol.

Gallwch helpu i leihau absenoldebau salwch yn eich gweithle drwy fynd i’r afael â’r achosion a chefnogi gweithwyr.

Manteision gweithredu

Gall ein gweithle effeithio’n gadarnhaol arnom trwy ddarparu ymdeimlad o bwrpas, cyswllt cymdeithasol ac amgylchedd cefnogol. Ond gall hefyd gael effaith negyddol yn sgil pethau fel amodau gwaith gwael neu lwyth gwaith afrealistig.

Gall cyflogwyr sy’n buddsoddi eu hamser a’u hegni ar iechyd a llesiant eu staff helpu eu busnes i ffynnu mewn sawl ffordd:

  • Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn fwy ymgysylltiedig a gwydn
  • Morâl uwch a mwy o gymhelliant a chynhyrchiant
  • Llai o absenoldebau salwch
  • Trosiant staff is a hynny’n gostwng costau recriwtio

Gall gweithredu hefyd wella eich brand a’ch enw da, gan helpu i ddenu talent a chleientiaid newydd – a chaniatáu i’ch sefydliad dyfu a ffynnu.

Sut i weithredu

Mae gennych lawer o gyfleoedd i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chefnogi iechyd da a llesiant yn eich gweithle.

Gall hyn gynnwys:

  • A-Y iechyd yn y gwaith

    Defnyddiwch ein A-Y iechyd yn y gwaith i gael arweiniad ymarferol ac adnoddau i’ch helpu i gefnogi iechyd a llesiant eich gweithwyr.

  • Ymgyrchoedd a digwyddiadau

    Gall hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd a llesiant fod yn ffordd syml o rannu gwybodaeth ac annog ymgysylltiad gweithwyr. Dewch o hyd i wybodaeth am ymgyrchoedd a digwyddiadau sy’n digwydd trwy gydol y flwyddyn.

  • E-fwletin

    I gael diweddariadau rheolaidd gan Cymru Iach ar Waith, gan gynnwys cyngor, offer a chyfleoedd dysgu, gallwch gofrestru ar gyfer derbyn ein e-fwletin.