
Bwyta'n iach yn y gweithle
Mae bwyta'n iach yn y gwaith yn helpu gweithwyr i gadw'n iach, teimlo'n fwy egnïol a gweithio'n well.
Manteision bwyta'n iach yn y gwaith
Rydyn ni’n bwyta o leiaf traean o’n calorïau bob dydd yn y gwaith, ac mae’r hyn rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith fawr ar ein hiechyd a pha mor dda rydyn ni’n perfformio.
Gan fod llawer o weithwyr yn treulio cyfran fawr o’u diwrnod yn y gwaith, mae’r gweithle yn chwarae rhan bwysig o ran dylanwadu ar arferion bwyta.
Mae cefnogi maeth da yn y gwaith yn gallu:
- Cynyddu’r gallu i ganolbwyntio a lleihau blinder
- Lleihau’r risg o salwch cronig fel clefyd y galon a diabetes
- Gwella llesiant meddyliol a lleihau straen
- Gwella morâl ac ymgysylltiad cyffredinol yn y gweithle
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025
