Skip to content

Bwyta'n iach yn y gweithle

Mae bwyta'n iach yn y gwaith yn helpu gweithwyr i gadw'n iach, teimlo'n fwy egnïol a gweithio'n well.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gefnogi bwyta’n iach yn y gwaith:

Hyrwyddo rhaglen Pwysau Iach GIG Cymru

Un o’r ffyrdd gorau y gall cyflogwyr gefnogi bwyta’n iach yw drwy hyrwyddo rhaglen Pwysau Iach Byw’n Iach GIG Cymru.

Mae’r adnodd hwn yn rhoi arweiniad ar gyflawni a chynnal pwysau iach.

Gall cyflogwyr gyfeirio gweithwyr at y rhaglen, lle gallan nhw gael mynediad at gymorth wedi’i deilwra a chymryd asesiad iechyd pum munud.

Darparu opsiynau bwyd iach

Gall cyflogwyr gefnogi bwyta’n iach trwy ddarparu opsiynau bwyd maethlon yn y gweithle.

Gall llenwi peiriannau gwerthu gyda byrbrydau iachach a chynnig ffrwythau ffres mewn cyfarfodydd wneud gwahaniaeth.

Mae gweithio gyda darparwyr arlwyo (Saesneg yn unig) i wella dewisiadau ar y fwydlen yn sicrhau bod gan weithwyr fynediad at brydau cytbwys.

Codi ymwybyddiaeth

Mae codi ymwybyddiaeth o faeth da hefyd yn bwysig.

Gall cyflogwyr rannu awgrymiadau trwy gylchlythyrau, posteri, a llwyfannau digidol.

Mae trefnu sgyrsiau neu weminarau maeth yn y gweithle yn helpu i addysgu staff, tra bod darparu adnoddau ar gynllunio prydau bwyd a deiet cytbwys yn cefnogi dewisiadau gwybodus.

Annog diwylliant bwyta’n iach

Mae creu diwylliant sy’n annog bwyta’n iach (Saesneg yn unig) yn gofyn am ymgysylltu gweithredol.

Mae sefydlu heriau neu fentrau bwyta’n iach yn gallu ysgogi gweithwyr.

Dylai rheolwyr arwain trwy esiampl trwy hyrwyddo dewisiadau maethlon ac annog gweithwyr i beidio â dewis byrbrydau afiach.

Cefnogi seibiannau ac amseroedd bwyd

Mae cefnogi gweithwyr i gymryd seibiannau priodol hefyd yn gallu gwella eu harferion bwyta.

Mae annog gweithwyr i gymryd seibiant llawn amser cinio a darparu mannau penodol ar gyfer prydau bwyd yn galluogi gweithwyr i fwyta’n ofalus.

Mae hyrwyddo diwylliant sy’n gwerthfawrogi amseroedd bwyd priodol yn helpu i atal gweithwyr rhag bwyta’n frysiog neu fethu prydau yn llwyr.

Hyrwyddo hydradiad

Mae hydradiad yn ffactor allweddol mewn llesiant yn y gweithle.

Dylai cyflogwyr sicrhau mynediad hawdd i orsafoedd dŵr.

Mae cynnig diodydd iach amgen yn helpu i leihau dibyniaeth ar ddiodydd siwgraidd.

Cefnogi anghenion dietegol

Mae cefnogi gweithwyr ag anghenion deietegol yn gwneud y gweithle yn fwy cynhwysol.

Dylai cyflogwyr gynnig amrywiaeth o opsiynau bwyd sy’n darparu ar gyfer gwahanol ofynion deietegol.

Mae labelu alergenau a gwybodaeth faethol yn glir yn sicrhau y gall gweithwyr wneud dewisiadau gwybodus.

Mae creu diwylliant o barch at ddewisiadau deietegol gwahanol yn creu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol.

Helpu gweithwyr sy’n gweithio o bell

Gall gweithwyr sy’n gweithio o bell hefyd elwa o fentrau bwyta’n iach yn y gweithle.

Mae rhannu syniadau ar gyfer paratoi prydau bwyd, cynnig sesiynau maeth rhithwir ac annog cynllunio prydau gartref yn cefnogi arferion iachach y tu hwnt i’r swyddfa.

Annog arferion bwyta’n iach hirdymor

Mae sicrhau bod bwyta’n iach yn flaenoriaeth hirdymor yn bwysig ar gyfer llesiant yn y gweithle.

Dylai cyflogwyr adolygu dewisiadau bwyd yn rheolaidd a chasglu adborth gweithwyr i wneud gwelliannau.

Mae ymgorffori maeth i bolisïau llesiant yn y gweithle yn sicrhau bod bwyta’n iach yn parhau i fod yn ffocws cyson.

Mae cydnabod a dathlu cynnydd yn helpu i gynnal cymhelliant ac ymgysylltiad mewn mentrau bwyta’n iach.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Llun agos o amrywiaeth o ddysglau o lysiau mewn bwffe.