Skip to content

Cwsg a chynhyrchiant

Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr hyrwyddo arferion cysgu da a dysgwch pam fod digon o gwsg yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Pwysigrwydd cwsg

Gall annog gweithwyr i fabwysiadu arferion cysgu iach fod o fudd mawr i’ch gweithlu. Gall wneud staff yn hapusach yn ogystal â gwella cynhyrchiant a pherfformiad.

Os nad yw gweithwyr yn cael digon o gwsg, efallai y byddan nhw’n cael trafferth canolbwyntio a gallan nhw fod yn absennol o’r gwaith yn amlach. Gall hyn gael effaith negyddol ar eich busnes.

Manteision allweddol arferion cysgu iach:

  • Gwella iechyd a llesiant cyffredinol y gweithiwr
  • Cynyddu cynhyrchiant a pherfformiad
  • Lleihau’r risg o bwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a diabetes

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20th Mawrth 2025

Cloc larwm wrth ymyl gwely lle mae menyw yn cysgu.