Skip to content

Cwsg a chynhyrchiant

Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr hyrwyddo arferion cysgu da a dysgwch pam fod digon o gwsg yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant.

Neidio'r tabl cynnwys

Achosion amddifadedd cwsg yn y gweithle

Mae llawer o ffactorau yn y gweithle a ffactorau personol yn cyfrannu at amddifadedd cwsg. Fel cyflogwr, unwaith y byddwch yn cydnabod yr achosion, gallwch roi polisïau a gweithdrefnau ar waith.

Mae’r achosion hyn yn cynnwys:

Oriau gwaith hir

Mae sifftiau estynedig yn lleihau’r cyfleoedd i gysgu.

Straen cysylltiedig â gwaith

Mae lefelau uchel o straen yn effeithio ar ansawdd cwsg.

Amserlenni afreolaidd

Mae gwaith sifft yn amharu ar gylchoedd cysgu naturiol.

Gorlwytho digidol

Mae gormod o amser sgrin yn effeithio ar batrymau cysgu.

Ffactorau personol

Gall pryderon ariannol, materion iechyd a chyfrifoldebau gofalu ymyrryd â gorffwys.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn rhannu gwybodaeth am sut mae cwsg yn effeithio ar berfformiad gwaith a’r hyn y gallwch ei wneud am y peth yn y blog hwn (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025

Cloc larwm wrth ymyl gwely lle mae menyw yn cysgu.