
Cwsg a chynhyrchiant
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr hyrwyddo arferion cysgu da a dysgwch pam fod digon o gwsg yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant.
Adnabod arwyddion amddifadedd cwsg
Mae amddifadedd cwsg yn effeithio’n negyddol ar berfformiad a llesiant. Gall cydnabod yr arwyddion hyn helpu cyflogwyr i ymyrryd a darparu cefnogaeth.
Mae arwyddion cyffredin yn y gweithle yn cynnwys:
- Llai o gynhyrchiant a chanolbwyntio
- Cof gwael ac amseroedd adweithio arafach
- Newidiadau mewn hwyliau, anniddigrwydd, neu fwy o straen
- Mwy o absenoldeb a phresenoliaeth
- Mwy o gymryd risgiau a damweiniau yn y gweithle
Mae The Sleep Charity (Saesneg yn unig) yn cynnig adnoddau i helpu i adnabod a rheoli problemau cwsg yn effeithiol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025
