Skip to content

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith

Darganfyddwch ganllawiau ac offer i'ch helpu i adolygu eich arferion presennol a chymryd camau i adeiladu gweithle mwy cynhwysol.

Neidio'r tabl cynnwys

Pam mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig

Mae gweithle amrywiol a chynhwysol yn helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cefnogi. Pan fydd pobl o gefndiroedd gwahanol yn dod â’u sgiliau a’u safbwyntiau ynghyd, mae busnesau’n ffynnu gyda mwy o greadigrwydd, cynhyrchiant a boddhad swydd.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol a moesegol i hyrwyddo tegwch. Mae hyn yn golygu sicrhau cyfle cyfartal i bob gweithiwr, beth bynnag fo’u hoedran, rhyw, anabledd, hil neu gefndir. Gall mynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cynhwysiant wella diwylliant yn y gweithle a helpu busnesau i ddenu a chadw gweithlu cryf.

Y tu hwnt i gydymffurfiaeth gyfreithiol, mae cofleidio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fudd i bawb. Mae gweithle teg a chynhwysol yn hybu morâl, yn cryfhau gwaith tîm ac yn gwella llesiant cyffredinol, gan ei wneud yn lle gwell i weithwyr a chyflogwyr.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Dau weithiwr caffi yn gwisgo ffedogau ac yn edrych ar liniadur ar fwrdd.