
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith
Darganfyddwch ganllawiau ac offer i'ch helpu i adolygu eich arferion presennol a chymryd camau i adeiladu gweithle mwy cynhwysol.
Deall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn deg a rhoi’r un cyfleoedd i bobl, waeth beth fo’u gwahaniaethau.
O dan gyfraith y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i gyflogwyr:
- Cydymffurfio â chyfreithiau cyflog cyfartal (Saesneg yn unig), sy’n golygu bod dynion a menywod yn cael eu talu’n gyfartal am yr un rolau (neu rolau cyfwerth)
- Osgoi gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr wrth eu penodi, cynnig dyrchafiadau a rhoi buddion
- Atal aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle a mynd i’r afael â hynny drwy bolisïau, hyfforddiant ac arweinyddiaeth.
Mae amrywiaeth yn golygu cydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl p’un a ydyn nhw’n weladwy neu’n anweladwy. Gall gwahaniaethau gynnwys diwylliant, cefndir a phersbectifau unigolyn.
Mae cynhwysiant yn golygu creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu a’u grymuso i gyfrannu, waeth beth fo’u hunaniaeth.
Nodweddion gwarchodedig
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddeddfwriaeth bwysig y mae angen i bob cyflogwr wybod amdani. Mae’r gyfraith yn nodi ei bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar sail y naw nodwedd warchodedig hyn:
- Oed
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Crefydd neu gred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) fwy o wybodaeth am wahaniaethu anuniongyrchol (Saesneg yn unig).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 3rd Ebrill 2025
