Skip to content

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith

Darganfyddwch ganllawiau ac offer i'ch helpu i adolygu eich arferion presennol a chymryd camau i adeiladu gweithle mwy cynhwysol.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Er mwyn cydymffurfio â chyfreithiau cydraddoldeb y DU a chreu gweithle tecach, dyma rai syniadau ar gyfer eich gweithle:

Adeiladu gweithlu mwy amrywiol

Fel cyflogwr, gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle teg mewn cyfleoedd gwaith:

  • Adolygu hysbysebion swyddi i sicrhau eu bod yn groesawgar i bawb, waeth beth fo’u cefndir neu nodweddion penodol
  • Hysbysebu swyddi gwag mewn lleoedd newydd i gyrraedd ymgeiswyr mwy amrywiol
  • Olrhain amrywiaeth ymgeiswyr a newid eich dulliau recriwtio os oes angen
  • Cynnig opsiynau gweithio hyblyg fel gwaith rhan-amser neu o bell i gefnogi rhieni a gofalwyr
  • Sicrhau bod eich gweithle yn gynhwysol drwy gael pethau fel ystafelloedd ymolchi rhywedd-niwtral i bawb, er enghraifft.
Gwneud eich gweithle yn fwy cynhwysol

Creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu trwy:

  • Ddefnyddio arolygon staff ac adborth i wella tegwch a diweddaru polisïau
  • Adolygu cyflogau a dyrchafiadau yn rheolaidd ac addasu er mwyn sicrhau tegwch
  • Hyfforddi rheolwyr i gynnig cefnogaeth ac addasiadau pan fo angen, fel amser ychwanegol ar gyfer tasgau
  • Ymuno â rhaglenni cynwysoldeb a chefnogi addewidion cydraddoldeb ar gyfer achosion fel oed (Saesneg yn unig) neu’r menopos (Saesneg yn unig), er enghraifft
  • Darparu cyfleoedd i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy rwydweithiau, mentora a datblygu
  • Sicrhau bod digwyddiadau gwaith yn gynhwysol drwy gynnig bwyd sy’n diwallu gwahanol anghenion crefyddol a diwylliannol.
Atal gwahaniaethu yn y gwaith

Helpu i wneud eich gweithle yn fwy diogel, yn decach ac yn fwy cynhyrchiol trwy:

  • Diweddaru polisïau yn rheolaidd i hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb i bawb
  • Creu polisïau sy’n cefnogi anghenion penodol, fel y menopos neu absenoldeb rhiant
  • Cynnig hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i bob gweithiwr, gan gynnwys am y Model Cymdeithasol o Anabledd
  • Cymryd safiad cryf yn erbyn gwahaniaethu, aflonyddu a bwlio, a sicrhau bod pawb yn gwybod sut i roi gwybod am faterion
  • Hyfforddi rheolwyr i gymhwyso addasiadau rhesymol yn deg
  • Dilyn polisïau iechyd a diogelwch a chynnal asesiadau risg (Saesneg yn unig) pan fo angen.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Dau weithiwr caffi yn gwisgo ffedogau ac yn edrych ar liniadur ar fwrdd.