
Cyfathrebu yn y gweithle
Darganfyddwch sut y gall cyfathrebu da yn y gwaith arwain at weithlu ymgysylltiedig â gwell morâl, ymddiriedaeth a chynhyrchiant.
Pam mae cyfathrebu'n bwysig yn y gweithle
Mae cynllun clir ar gyfer cyfathrebu yn y gweithle yn gwella perfformiad busnes a boddhad gweithwyr trwy:
- Meithrin ymddiriedaeth – mae siarad yn agored yn helpu pawb i fod yn onest ac yn gyfrifol. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.
- Annog ymgysylltiad – pan fydd gan weithwyr lais, maen nhw’n fwy tebygol o ymuno mewn gweithgareddau gwaith a rhannu syniadau
- Lleihau camddealltwriaeth – gall negeseuon clir atal gwrthdaro, gwella gwaith tîm, a chyfateb â nodau sefydliadol
- Gwella cynhyrchiant – pan fydd gweithwyr yn deall eu tasgau a pha nodau i anelu atyn nhw, maen nhw’n gweithio’n fwy cynhyrchiol
- Cefnogi llesiant yn y gweithle – mae rhannu diweddariadau rheolaidd am weithgareddau llesiant yn helpu’ch gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn eu hannog i ofalu am eu hiechyd yn well
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13th Mawrth 2025
