Skip to content

Cyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau

Dysgwch sut i gefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau a phwysigrwydd arferion gweithle cynhwysol.

Neidio'r tabl cynnwys

Cyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau yn y gweithle 

Fel cyflogwr, mae’n bwysig helpu gweithwyr â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau. Mae’n gwneud y gweithle yn fan teg a chynhwysol. Gall wella llesiant, lleihau diwrnodau salwch, a gwneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n well.

Yng Nghymru, mae gan dros draean o oedolion oed gwaith salwch hirdymor. Mae hyn yn cynyddu i bron i hanner ymhlith oedolion dros 65 oed.

Wrth i fwy o bobl weithio’n hirach, mae mwy o weithwyr yn debygol o fod â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau.

Gall cefnogi’r gweithwyr hyn fod o fudd i’ch busnes drwy:

  • Gwella ymgysylltiad a chynhyrchiant gweithwyr
  • Lleihau absenoldebau
  • Bodloni gofynion cyfreithiol (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20th Mawrth 2025

Person mewn cadair olwyn wrth ddesg yn gweithio ar liniadur ac yn siarad ar y ffôn.