Skip to content

Cyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau

Dysgwch sut i gefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau a phwysigrwydd arferion gweithle cynhwysol.

Neidio'r tabl cynnwys

Deall cyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau

Mae’r termau cyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau yn gysylltiedig ond yn wahanol o ran ystyr.

Cyflwr Iechyd

Mae cyflwr iechyd yn cyfeirio at glefyd, salwch, anaf neu anhwylder sy’n effeithio ar iechyd corfforol neu feddyliol unigolyn. Mae enghreifftiau’n cynnwys diabetes, asthma neu goes wedi torri.

Gall cyflwr iechyd arwain at amhariad neu anabledd.

Amhariad

Amhariad yw unrhyw golled neu annormaledd mewn cysylltiad â gallu corfforol neu feddyliol. Mae enghreifftiau’n cynnwys colli golwg, trychiad, parlys, colli cof neu boen cronig. Gall amhariadau fod dros dro (e.e. braich wedi torri) neu’n barhaol (e.e. colli clyw).

Nid yw pob amhariad yn arwain at anabledd (e.e. byrder golwg ysgafn sy’n cael ei gywiro â sbectol).

Anabledd 

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydych yn anabl os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar eich gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol.

Mae enghreifftiau’n cynnwys rhywun â pharaplegia sy’n methu cerdded, rhywun ag iselder difrifol sy’n cael trafferth gyda thasgau dyddiol neu berson sydd â dallineb yn wynebu rhwystrau mewn byd sy’n dibynnu ar y golwg.

Mae pobl â chyflyrau iechyd neu amhariadau penodol yn cael eu diogelu gan Ddeddf Anabledd 2010. Gallwch ddarganfod mwy ar wefan ACAS (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Person mewn cadair olwyn wrth ddesg yn gweithio ar liniadur ac yn siarad ar y ffôn.