Skip to content

Cyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau

Dysgwch sut i gefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau a phwysigrwydd arferion gweithle cynhwysol.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, gallwch gefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd, amhariadau ac anableddau.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gweithle:

Annog cyfathrebu agored

Gwneud eich gweithle yn fan lle mae gweithwyr yn teimlo’n ddiogel yn siarad am eu hiechyd heb ofni gwahaniaethu.

Sefydlu ffyrdd cyfrinachol i weithwyr rannu eu hanghenion neu eu pryderon. Gallai hyn fod yn sgyrsiau rheolaidd, arolygon dienw neu gyfarfodydd gyda chynrychiolydd AD neu gynrychiolydd staff penodol.

Hyfforddi staff i ddarparu cefnogaeth

Gwneud yn siŵr bod gweithwyr, yn enwedig rheolwyr, yn gwybod sut i gefnogi cydweithwyr â chyflyrau iechyd.

Dylai’r hyfforddiant gynnwys:

  • Hawliau gweithwyr yn ôl y gyfraith
  • Sut i fod yn empathetig a chynnig cefnogaeth
  • Sut i siarad am faterion iechyd gyda gofal a chyfrinachedd

Os ydych chi’n fusnes bach, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr.

Mae’r Fforwm Anabledd Busnes (Saesneg yn unig) hefyd yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau.

Rhannu adnoddau

Dyweud wrth weithwyr sydd angen cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl neu gyhyrysgerbydol am y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.

Gall y Pasbort Addasiad Iechyd helpu gweithwyr i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i’w helpu i aros mewn gwaith.

Creu gweithle sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant

Sefydlu grwpiau cymorth lle gall gweithwyr rannu eu profiadau a’u hadnoddau defnyddiol.

Annog gweithwyr i gefnogi ei gilydd drwy rwydweithiau staff.

Ewch i’n tudalen we ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i ddarganfod mwy.

Gwneud addasiadau rhesymol yn y gwaith

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i gyflogwyr wneud newidiadau (a elwir yn ‘addasiadau rhesymol’) i helpu gweithwyr anabl.

Gallai’r newidiadau hyn gynnwys:

  • Gadael i weithwyr newid oriau gwaith ar gyfer apwyntiadau meddygol neu reoli eu cyflwr iechyd
  • Caniatáu i weithwyr weithio gartref i leihau straen meddyliol a chorfforol
  • Newid gweithfannau i’w gwneud yn fwy cyfforddus
  • Mae Mynediad at Waith yn darparu cymorth a chyngor ariannol ar gyfer gwneud yr addasiadau hyn
Defnyddio technoleg

Darparu dyfeisiau a meddalwedd arbennig i helpu gweithwyr i wneud eu gwaith yn haws.

Caniatáu ffyrdd hyblyg o weithio a chyfathrebu.

Adolygu eich cefnogaeth

Casglu adborth i weld beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei wella.

Gwneud newidiadau yn seiliedig ar yr adborth hwn i sicrhau eich bod yn darparu’r gefnogaeth gywir.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025

Person mewn cadair olwyn wrth ddesg yn gweithio ar liniadur ac yn siarad ar y ffôn.