Skip to content

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn y gweithle

Mae Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) yn fwy na thuedd busnes—mae'n ymrwymiad i arferion moesegol, llesiant gweithwyr a chynaliadwyedd.

Neidio'r tabl cynnwys

Pam fod CCC yn bwysig i gyflogwyr

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) yw ymrwymiad sefydliad i arferion busnes moesegol, effaith gymdeithasol a chynaliadwyedd. Os ydych chi’n integreiddio CCC i’ch strategaethau craidd, gallwch elwa o enw da gwell, teyrngarwch cwsmeriaid a gwella’ch siawns o sicrhau llwyddiant busnes hirdymor.

Buddion i gyflogwyr a gweithwyr:

  • Mwy o ymgysylltiad â gweithwyr a boddhad swydd
  • Gwell enw da brand ac ymddiriedaeth cwsmeriaid
  • Llai o absenoldeb a throsiant staff
  • Cysylltiadau cryfach â chymunedau lleol

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025

Llun agos o bobl yn sefyll mewn cylch gyda’i dwylo’n dal planhigyn yn y canol.