
Cymorth ar gyfer gweithle di-fwg
Dysgwch am fanteision gweithle di-fwg a sut y gallwch chi gefnogi gweithwyr sydd am roi'r gorau i smygu.
Manteision gweithle di-fwg
Mae smygu yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch y gellir ei atal a marwolaeth yng Nghymru. Trwy gael gweithle di-fwg, gallwch gefnogi’ch gweithwyr sydd am roi’r gorau i smygu.
Mae gweithle di-fwg yn cadw gweithwyr yn iachach ac yn gallu arbed arian. Pan nad yw pobl yn smygu yn y gwaith, maen nhw’n mynd yn sâl yn llai aml. Mae hyn yn golygu eu bod yn cymryd llai o ddiwrnodau i ffwrdd ac yn teimlo’n well yn y gwaith. Mae tîm iach yn dîm hapus a mwy brwdfrydig.
Mae dilyn cyfreithiau smygu yn bwysig. Mae cadw’r gweithle’n ddi-fwg yn helpu i osgoi problemau gyda’r gyfraith. Mae hefyd yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o sicrhau Cymru ddi-fwg erbyn 2030.
Mae gofod di-fwg yn edrych ac yn teimlo’n well. Mae’n arogli’n fwy ffres, yn aros yn lanach, ac yn gwneud y gweithle yn fwy croesawgar i bawb. Mae ymchwil (dolen Saesneg yn unig) yn dangos bod cwmnïau sydd â pholisïau iechyd cryf, gan gynnwys amgylcheddau di-fwg, yn llwyddo i gadw gweithwyr yn well ac yn denu gweithwyr sy’n fwy ymwybodol o iechyd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025
