Skip to content

Cymorth ar gyfer gweithle di-fwg

Dysgwch am fanteision gweithle di-fwg a sut y gallwch chi gefnogi gweithwyr sydd am roi'r gorau i smygu.

Neidio'r tabl cynnwys

Gwasanaeth Helpa Fi i Stopio

Helpa Fi i Stopio yw’r gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu cenedlaethol yng Nghymru. Mae Helpa Fi i Stopio yn grymuso unigolion i gymryd rheolaeth o’u hiechyd a thorri’n rhydd o gaethiwed i dybaco.

Trwy ddarparu cefnogaeth dosturiol, 1 i 1, cymorth dros y ffôn, arweiniad arbenigol, ac offer wedi’u personoli, mae Helpa Fi i Stopio yn helpu miloedd o ysmygwyr yng Nghymru, bob blwyddyn, i gyflawni eu nod o fyw yn ddi-fwg.

Trwy ddefnyddio Helpa Fi i Stopio, mae smygwyr hyd at deirgwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu na’r rhai sy’n rhoi cynnig arni ar eu pennau eu hunain.

Gallwch hyrwyddo Helpa Fi i Stopio yn eich gweithle ac annog gweithwyr sy’n smygu i ymweld â gwefan Helpa Fi i Stopio neu ffonio 0800 085 2219 i gael mynediad i’r gwasanaeth.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Grŵp o bobl fusnes yn sefyll mewn ystafell yn sgwrsio.