Skip to content

Cymorth ar gyfer gweithle di-fwg

Dysgwch am fanteision gweithle di-fwg a sut y gallwch chi gefnogi gweithwyr sydd am roi'r gorau i smygu.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, rydych chi’n chwarae rhan bwysig wrth helpu gweithwyr i roi’r gorau i smygu. Mae hyn hefyd yn helpu i gynnal amgylchedd gwaith iachach.

Dyma rai pethau y gallwch chi eu rhoi ar waith yn eich gweithle:

Annog cefnogaeth i roi’r gorau i smygu

Dweud wrth weithwyr am wasanaeth Helpa Fi i Stopio GIG Cymru. Maen nhw’n cynnig cyngor arbenigol am ddim a therapi disodli nicotin.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o raglenni rhoi’r gorau i smygu i hybu cyfranogiad gweithwyr.

Cael polisi di-fwg

Sefydlu a gorfodi rheolau smygu clir yn y gweithle.

Ystyried ymestyn ardaloedd di-fwg i gynnwys meysydd parcio a mannau awyr agored yn y gweithle.

Sicrhau bod arwyddion priodol a chyfathrebu polisïau yn glir i’r holl staff.

Meithrin diwylliant cefnogol yn y gweithle

Annog cefnogaeth cymheiriaid ymhlith gweithwyr sy’n rhoi’r gorau i smygu gyda’i gilydd.

Trefnu mentrau llesiant sy’n hyrwyddo ffordd ddi-fwg o fyw.

Sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfreithiau smygu yn y gweithle a’u gorfodi.

Hyfforddi rheolwyr i gefnogi gweithwyr a gorfodi polisïau’n deg.

Amddiffyn pobl nad ydyn nhw’n smygu rhag dod i gysylltiad â mwg ail-law.

Arwain trwy esiampl

Gwneud pob digwyddiad yn y gweithle yn ddi-fwg.

Annog arweinyddiaeth i gefnogi mentrau rhoi’r gorau i smygu.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025

Grŵp o bobl fusnes yn sefyll mewn ystafell yn sgwrsio.